Mae arfordir Dyfi yn newid drwy’r amser. Mae wedi newid ac addasu dros filoedd o flynyddoedd, ac mae pobl a chymunedau wedi addasu hefyd.
Er mwyn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rydyn ni’n credu bod yn rhaid i ni barhau i addasu – ac mae gennym well siawns o lwyddo os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny.
Mae arfordir Dyfi yn newid drwy’r amser. Mae wedi newid ac addasu dros filoedd o flynyddoedd, ac mae pobl a chymunedau wedi addasu hefyd. Er mwyn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rydyn ni’n credu bod yn rhaid i ni barhau i addasu – ac mae gennym well siawns o lwyddo os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny.
Rhwng 2020 a 2022, cyfarfu Tir Canol – partneriaeth o bobl a sefydliadau sy’n gweithio i greu canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol – â thrigolion a sefydliadau lleol ledled Dyfi gydag awydd dwfn ar y cyd i ymgysylltu’n gadarnhaol i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.
Yr uchelgais yw meddwl yn fyd-eang ond cael effaith yn lleol, cofleidio syniadau a phrofiadau pobl eraill, ac adeiladu ar yr asedau ymarferol sydd ar flaenau ein bysedd.
Galluogi ein hunain a’n cymuned
Gyda chefnogaeth Tir Canol, ffurfiwyd ein grŵp cyd-gynhyrchu craidd. Rydyn ni’n cynnwys trigolion o bob rhan o aber afon Dyfi sydd â safbwyntiau a phrofiadau bywyd amrywiol, o ffermwyr ac ymchwilwyr i farchnatwyr ac artistiaid. Credwn ei bod yn bwysig rhoi pobl wrth galon ein syniadau a’n cynlluniau gweithredu.
Rydyn ni ar daith i addysgu ein hunain ac eraill yn ein cymuned am ddyfodol posibl ein harfordir poblogaidd yn wyneb lefelau’r môr yn codi a newid yn yr hinsawdd. Mae’r llawlyfr hwn – y cyntaf o’i fath i gael ei greu gan ddefnyddio dull cyd-gynhyrchu – yn amlinellu cyd-destun a chwmpas ein gwaith, gan archwilio hanes a daearyddiaeth arfordir Dyfi, ei gynefinoedd a’i rywogaethau, a pham ei fod mor unigryw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bolisïau, cynlluniau a modelu’r arfordir, ac yn rhoi llais i rai o’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
Mae Newid Llanw yn golygu cydweithredu yn ein cymunedau, gan roi rheolaeth a pherchnogaeth i bobl leol dros eu blaenoriaethau eu hunain. Mae'n ymwneud â rhannu arferion a gwybodaeth sydd wedi’u nodi ar y cyd, gyda balchder, er mwyn gwella ein hardal ar gyfer byd natur, ar ein cyfer ein hunain, ein hymwelwyr a'n cwsmeriaid, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
PENNOD DAU:Hanes a daearyddiaeth arfordir Dyfi
Mae aber afon Dyfi a’r (yr ardal o dir lle mae’r holl law a’r nentydd yn llifo i’r un afon yn y pen draw), ar arfordir gogledd Bae Ceredigion yng Nghanolbarth Cymru.
Mae’r arfordir modern rydyn ni’n ei adnabod ac yn ei garu heddiw – y gwastadeddau llanw, y tafodau a’r twyni yn Ynyslas, rhuban y gorlifdir rhwng Machynlleth a’r arfordir, y morfeydd heli isel, a Chors Fochno – yn deillio o newidiadau dramatig sydd wedi digwydd dros y 11,700 mlynedd diwethaf.
Roedd yr un prosesau hirdymor hyn (newidiadau yn lefel y môr, twf mawn, erydu a gwaddodi afonydd ac arfordiroedd) hefyd yn golygu bod yr ardal yn agored i lifogydd heddiw. Maen nhw’n penderfynu pa opsiynau ar gyfer lleihau’r risg o lifogydd sy’n addas i’n cymuned, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r map yn dangos aber Afon Dyfi ar arfordir gorllewinol Cymru, yn agor i Fôr Iwerddon i’r gorllewin.
Mae’r lleoliadau canlynol wedi’u labelu:
Tywyn (gogledd), Aberdyfi yng ngheg yr aber, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Ynyslas, Morfa Borth, Taliesin, Tre’r-ddôl, Llangynfelyn, Tal-y-bont, Eglwys Fach a RSPB Ynys-hir.
Mae codau lliw i gynefinoedd fel a ganlyn:
Twyni tywod – wedi’i ddangos mewn melyn yn Ynyslas, i’r de o geg yr aber
Cors (cors mawn) – wedi’i ddangos mewn brown tywyll mewndirol ger Morfa Borth
– wedi’i ddangos mewn gwyrdd golau ar hyd ymyl deheuol yr aber
Banciau tywod – wedi’u dangos mewn glas ym masn yr aber
Mae’r aber yn cynnwys sianeli llanw canghennog wedi’u hamgylchynu gan fanciau tywod .
Yn ôl i’r dechrau
Yn ystod y cyfnod Hwyr, tua 27,500 i 23,300 o flynyddoedd yn ôl, cafodd tirwedd canolbarth Cymru ei siapio gan ddau beth:
Rhewlifoedd a oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf o Gymru a Môr Iwerddon
Dŵr tawdd a lefel y môr yn codi a ryddhawyd gan rewlifoedd a llenni iâ wrth i'r hinsawdd gynhesu
Yn nalgylch Dyfi, cafodd haenau trwchus o dywod a graean o rewlifoedd ac iâ’n toddi eu ar loriau dyffrynnoedd. Ffurfiwyd cyfres o ysgafellau gwastad uwch (neu derasau afon) sydd bellach yn gorwedd hyd at 25 metr uwchben y gorlifdir modern.
Daeth y dyddodion hyn yn sylfaen i afonydd y cyfnod naddu eu sianeli a’u gorlifdiroedd drwyddynt.
Mae llwybrau afonydd hynafol sydd wedi’u cadw ar wyneb y terasau hyn yn dangos bod afon Dyfi a’r afonydd cyfagos wedi addasu eu cyrsiau dro ar ôl tro wrth i’r llif o ddŵr tawdd, y cyflenwad o waddodion a lefel y sylfaen amrywio.
Y cyfnod cynnar i ganolig: Lefel y môr yn codi ac aber yn ffurfio
Wrth i haenau iâ ac, yn ddiweddarach, y dyffryn gilio o arfordir Cymru, bu cynnyd cyflym yn lefel y môr yn fydeang yn ystod y cyfnod cynnar (11,700 i 8,200 o flynyddoedd yn ôl).
Llifodd y môr yn gynyddol i mewn i ddyffryn Dyfi sydd bellach dan ddŵr. Erbyn canol yr (8,200 i 4,200 o flynyddoedd yn ôl), roedd wedi newid o fod yn afon (afonol) i aber (dŵr heli/croyw). Yna, newidiodd yn wastadedd llanw a (neu wlypdiroedd ).
Caeodd y tafod graean yn Borth– Ynys-las geg yr aber yn rhannol gan helpu i greu’r amodau ar gyfer datblygiad Cors Fochno, y gyforgors sydd yn union gerllaw ar y tir.
Sefydlwyd ein harfordir modern yn fras tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ond mae twf morfeydd heli, mudo tafodau a symud twyni tywod yn dal i ddigwydd.
Mae’r ddelwedd yn fap steiliedig sy’n dangos newidiadau mewn tir uwchben lefel y môr dros amser.
Mae’r allwedd yn nodi’r canlynol:
Mae gwyrdd tywyll yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 16,000 CC
Mae gwyrdd canol yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 8,000 CC
Mae gwyrdd golau yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 7,000 CC
Mae oren yn cynrychioli arwynebedd tir heddiw
Mae llinellau glas tywyll yn cynrychioli afonydd
Mae’r map yn dangos bod arwynebedd y tir yn sylweddol fwy yn 16,000 CC, gan ymestyn ymhellach i’r gorllewin. Erbyn 8,000 CC a 7,000 CC roedd maint y tir wedi lleihau wrth i lefelau’r môr godi. Mae’r arfordir presennol, a ddangosir mewn oren, yn cynrychioli’r darn lleiaf o dir o’i gymharu â chyfnodau cynharach.
Dangosir nifer o afonydd yn llifo ar draws y tir, rhai yn ymestyn y tu hwnt i’r arfordir presennol, gan nodi systemau afonydd a fodolai cyn i lefelau’r môr godi.
Mae’r ddelwedd yn dangos y gostyngiad graddol mewn arwynebedd tir dros amser oherwydd lefelau’r môr yn codi.
Mae Cors Fochno yn fawnog 650 hectar sy’n cael ei bwydo gan law. Mae’n un o’r cyforgorsydd sydd yn y cyflwr gorau ym Mhrydain ac yn cynnwys cofnod eglur iawn o’r cyfnod .
Mae’r gors yn cynnwys mwsogl mawn, gyda’i chromen ganolog yn cyrraedd trwch o 5 metr. Dechreuodd ffurfio ar ben gwely coedwig gynharach o gyfnod yr canol a datblygodd yn gors a oedd yn cael ei bwydo gan law rhwng oddeutu 4,700 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae strwythur haenog y gors yn cofnodi newidiadau yn y gorffennol o ran a chlirio coetiroedd, yn ogystal â pha bryd y ddigwyddodd stormydd.
Mae’r cofnod hwn wedi cael ei ddefnyddio’n ddiweddar i olrhain pa mor ddwys ac aml y cafwyd stormydd ym Mae Ceredigion dros y 4,500 mlynedd diwethaf.
Mae’r gors nid yn unig yn cofnodi newid amgylcheddol, ond mae ei mawn a’i system ddraenio yn helpu i reoli llifogydd lleol drwy storio dŵr a lleihau effeithiau ymchwyddiadau storm.
Mae gan Gors Fochno gofnod archaeolegol cyfoethog hefyd. Mae’r prif ddarganfyddiadau’n cynnwys gwrthrych pren o’r Oes Efydd, tystiolaeth o weithgareddau diwydiannol a mwyndoddi metel o’r Oes Haearn/Rhufeinig, a llwybr canoloesol.
Un o’r ymyriadau mwyaf arwyddocaol oedd amg.u Cors Fochno rhwng 1813 ac 1847. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys dargyfeirio Afon Leri yn uniongyrchol i aber afon Dyfi ac adeiladu arglawdd ar hyd ei hymyl deheuol.
Roedd yr arglawdd yn lleihau’r arwynebedd a oedd ar gael i storio dŵr o dan y dŵr penllanw cymedrig (lefel uchaf gyfartalog y mae’r llanw mawr yn ei chyrraedd) gan 35 y cant.
Roedd gan Reilffordd Arfordir Cymru, a adeiladwyd ar ddechrau’r 1860au, draciau wedi’u codi a oedd yn creu rhwystr a oedd yn gwahanu llawer o orlifdir afon Dyfi oddi wrth ei phrif sianel – yn enwedig yn y rhan o’r afon a’r aber dan ddylanwad y llanw.
Newidiodd y cynlluniau hyn forffoleg a deinameg aber afon Dyfi a rhannau isaf yr afon yn sylweddol drwy:
leihau faint o ddŵr a a oedd yn cael eu storio
atal gwaddodi y tu ôl i argloddiau
danfon mwy o waddodion o Afon Leri, bellach wedi’i dargyfeirio i aber afon Dyfi
sianelu’r gorlanw ymhellach i fyny’r aber.
Un o ganlyniadau amlycaf yr ymyriad hwn yw un y gallwch ei weld hyd heddiw – mae’r tir y tu ôl i’r hen argloddiau a adeiladwyd rhwng Pennal a Gogarth 1 metr yn is na’r tir y tu allan iddynt, oherwydd nad oes unrhyw haenau newydd o waddodion wedi’u ar ei wyneb ers tua 200 mlynedd.
Mae’r gyfradd y mae aber afon Dyfi yn cronni yn is nag ar unrhyw adeg yn ystod y 1,000 o flynyddoedd diwethaf (gweler ffigurau 1 a 2). Mae’r rhain yn adlewyrchu’r cynnydd mewn coetiroedd, gostyngiad sydyn mewn ffermio ac, yn bwysicaf oll, cau mwyngloddiau metel a oedd yn cynhyrchu gwastraff yn y , sydd i gyd wedi lleihau’r cyflenwad o waddodion i’r aber.
Mae’r newidiadau hyn wedi gwella bioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau’r ardal yn sylweddol. Ond gallai’r gostyngiad yn y cyflenwad o waddodion, yn y tymor hir, olygu bod rhan isaf afon Dyfi yn dechrau erydu ei gwely ei hun. Er y gallai hyn leihau llifogydd yn lleol, gall hefyd olygu bod llai o waddod yn cael ei ddanfon i’r arfordir i ailgyflenwi’r traethau, sy’n diogelu’r tir rhag y môr.
Cloddio am fetel
Mae cloddio am fetel yn hanesyddol wedi cael effaith fawr ar gyflenwad , ansawdd a chyfraddau gwaddodi Dyfi – yn enwedig yn y rhan o Afon Dyfi sydd dan ddylanwad y llanw.
Mae Dyfi, fel llawer o Ganolbarth Cymru, yn cynnwys nifer o wythiennau mwynol (corff penodol, tebyg i ddalennau o fwynau crisialog mewn craig). Cafodd y gwythiennau hyn, yn llawn plwm, sinc, copr ac arian, eu gweithio o bryd i’w gilydd o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cyrhaeddodd mwyngloddio ei anterth yn ystod y 18fed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan echdynnwyd llawer iawn o fwynau a phan aeth y gwastraff dilynol i mewn i rwydwaith yr afon. Arweiniodd hyn at halogi eang sy’n dal i lygru Afon Dyfi a llawer o’i hisafonydd heddiw – sy’n cael ei waethygu gan lifogydd amlach a mwy difrifol.
Mae mwyngloddio hanesyddol yn gosod sawl cyfyngiad ar reoli llifogydd ac arfordiroedd. Gall ail-weithio gorlifdir neu brosiectau peirianyddol sy’n newid cwrs yr afon darfu ar waddodion sydd wedi’u halogi, gyda pherygl o ryddhau metelau i’r amgylchedd. A gall hyn niweidio ecosystem aber afon Dyfi ac o bosibl fynd i mewn i gadwyni bwyd.
Dyma ffyrdd o helpu i atal hyn:
Cyn gwneud unrhyw waith mawr, rhaid cynnal asesiad amgylcheddol i werthuso lefelau’r halogyddion.
Gall sefydlogi neu lanhau deunydd gwastraff presennol leihau llif metelau trwm a gludir gan waddodion.
Gall cynlluniau rheoli llifogydd naturiol sy’n cynyddu gorchudd llystyfiant lleol a dŵr ffo araf leihau cyfnodau brig llifogydd (anterth llifogydd). Gallant hefyd ddal halogyddion cyn iddynt gyrraedd prif afonydd.
Amddiffyn pobl, eiddo a natur
O’r cyfnod canoloesol hyd heddiw, mae amrywiaeth o fesurau wedi cael eu cymryd i leihau llifogydd, ac i amddiffyn pobl, eiddo a natur yn nalgylch Dyfi – yn enwedig yn aber afon Dyfi ac yn y rhan o’r afon sydd dan ddylanwad y llanw i fyny i Fachynlleth.
Adeiladwyd argloddiau a draeniau tir ar ddwy ochr yr afon rhwng Pennal a Gogarth i amddiffyn y tir rhag llifogydd, a hefyd o amgylch ymylon Cors Fochno.
Un o’r mesurau mwyaf fu’r bont newydd dros Afon Dyfi, ger Machynlleth. Cafodd ei hagor ym mis Chwefror 2024, ar gost o £46m, a’i hadeiladu i wella cefnffordd yr A487 a darparu llwybr mwy cydnerth, yn enwedig yn ystod llifogydd.
Gall yr holl strwythurau hyn ddiogelu seilwaith yn lleol. Ond gallant hefyd newid lle mae dŵr yn llifo yn ystod llif uchel yn yr afon ac ymchwyddiadau storm – weithiau’n cronni’r risg i lawr yr afon neu mewn mannau lle mae llai o glustogi naturiol.
Mae gwaith modelu diweddar ar gyfer afon Dyfi yn pwysleisio’r rhyngweithio rhwng mesurau wedi’u llunio’n benodol a systemau naturiol, a’r angen i gynllunio gyda lle ar gyfer dŵr.
Rydyn ni hefyd nawr yn gwneud mwy o waith i warchod rhywogaethau allweddol ar hyd yr aber, gan gydnabod y gwarchodfeydd natur pwysig gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (PLAS SAC), Biosffer Dyfi a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i ni benderfynu sut rydyn ni’n rheoli tir ar gyfer natur, gan wybod, gyda , y bydd rhai rhywogaethau sy’n byw yn yr aber ar eu hennill a rhai ar eu colled.
Dros y 50 mlynedd nesaf, bydd newid yn yr hinsawdd yn cael ei sbarduno’n bennaf gan allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hachosi gan bobl. Mae allyriadau’n dal gwres ac anwedd dŵr yn yr atmosffer, gan arwain at dymheredd cynhesach, lefel y môr yn codi a thywydd mwy eithafol.
Hyd yn oed os bydd allyriadau’n arafu, bydd y Ddaear yn dal i gynhesu oherwydd y nwyon sydd eisoes yn yr aer. Beth yw’r canlyniad? Stormydd mwy, llifogydd mwy ac amlach, hafau poethach ac arfordiroedd sy’n newid.
Mae aber afon Dyfi a’r yn debygol o wynebu pwysau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, gan gynnwys:
lefel y môr yn codi
lefel eithafol y môr yn uwch yn ystod stormydd
glaw mwy dwys yn y gaeaf (a’r haf o bosibl), a dŵr ffo
llifogydd amlach a mwy difrifol mewn afonydd
hafau cynhesach a sychach
Bydd y rhain yn ail-lunio’r Aber ac afonydd yr ardal, cyflenwi a cholli , cynefinoedd (, twyni, mawnog), deinameg afonydd a pherygl llifogydd i bobl.
Ond mae llawer y gall rheolwyr llifogydd ac arfordiroedd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr ei wneud i helpu pobl sy’n byw ac yn gweithio yn aber afon Dyfi a’r i addasu i’r newidiadau hyn – gweler pennod 9 am ragor o wybodaeth.
Newidiadau a ragwelir i’r arfordir, yr aber a’r afon
Cynnydd yn lefel y môr a lefelau uwch yn ystod stormydd
Mae rhagolygon y DU yn dangos cynnydd sylweddol yn lefel cymedrig y môr (cynnydd graddol yn uchder cyfartalog arwyneb y môr) a lefelau eithafol y môr (digwyddiadau lle mae’r lefelau dŵr uchaf yn digwydd) pan fydd ymchwyddiadau storm a llanwau’n digwydd ar yr un pryd.
Yn ôl Rhagolygon Hinsawdd y DU (UKCP18), disgwylir i lefel y môr godi’n sylweddol erbyn 2075.
Bydd y cynnydd hwn yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd rhwystrau isel a thwyni tywod ar yr arfordir yn cael eu bylchu. Mae’r cynnydd cymedrig yn lefel y môr a ddisgwylir ar gyfer Ceredigion yn 0.8 i 1.07 metr yn ôl rhagolygon Llywodraeth Cymru.
Glaw mwy dwys yn y gaeaf a llif uwch mewn afonydd
Mae arsylwadau a rhagolygon yn dangos cynnydd mewn glaw eithafol yn ystod y gaeaf, sy’n golygu lefelau brig uwch mewn afonydd (pan fydd yr afon ar ei huchaf) a dŵr ffo cyflymach o’r tir uchel. Sy’n golygu bod llifogydd mewn afonydd yn digwydd yn amlach ac yn fwy difrifol ar draws y .
Mae llifogydd afonydd ynghyd â llanw uchel/ ymchwyddiadau storm yn creu llifogydd cyfansawdd sy’n fwy niweidiol na digwyddiad ar ei ben ei hun. Bydd y rhain yn arwain nid yn unig at rwygo traeth y Borth a Thwyni Ynys-las, ond hefyd at erydu llethr a gwely sianeli ar raddfa fawr, ac o bosibl adleoli Afon Dyfi i ran arall o’i gorlifdir.
Yn achos Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru sy’n cynnwys Afon Dyfi, mae rhagolygon y model yn dangos cynnydd o rhwng 30% a 70% yn llif yr afon erbyn y 2080au (o’i gymharu â’r llinell sylfaen o 1960 i 1991), yn ôl data Llywodraeth Cymru.
Mae ymchwil newydd yn dangos bod tywydd poeth ar y môr eisoes yn dod yn broblem. Yn ystod tywydd poeth mis Mehefin 2023, cyrhaeddodd y tymheredd ym moroedd bas y DU 2.9 gradd yn uwch na chyfartaledd mis Mehefin am 16 diwrnod, yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerwysg, y Swyddfa Dywydd a Cefas (Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a ).
Mae’r dyfroedd cynhesach hyn ger y lan, ynghyd â llwybrau stormydd yn newid (y llwybr y mae stormydd yn ei ddilyn ar draws rhanbarth penodol), yn newid ynni tonnau a symudiad dŵr mewn aberoedd.
Bydd newidiadau ecolegol a chyfnodau hir o dymheredd môr anarferol o gynnes hefyd yn effeithio ar y grwpiau amrywiol o organebau sy’n byw ar, yn neu ger gwaelod y môr sy’n dylanwadu ar erydu a .
Newidiadau yng nghyflwr dŵr a thir y
Mae pridd wedi’i gywasgu’n drwm, mawnogydd wedi’u draenio a llai o goed oherwydd arferion ffermio yn y gorffennol yn achosi i lefelau dŵr godi’n gyflymach.
Gall gwaith rheoli tir wedi’i dargedu arafu ac weithiau leihau llif y dŵr a’r sy’n cael eu . Mae prosiectau rheoli llifogydd naturiol diweddar yn afon Dyfi – fel y rhai yn Afon Pennal ac Afon Leri (gweler pennod 9) – yn dangos pa mor bwysig yw’r cynlluniau hyn a pha mor effeithiol ydynt o bosibl.
Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes data ar gael ar gyfer effeithiolrwydd hirdymor y cynlluniau hyn ar gyfer dalgylchoedd sy’n fwy na 10 km2 – ac yn enwedig yn ystod llifogydd eithafol neu lifogydd sy’n para wythnosau i fisoedd, yn ôl data Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y cynlluniau hyn yn gwella cynefinoedd lleol a bioamrywiaeth, ond nid ydynt yn atal llifogydd yn ystod stormydd eithafol.
Bydd systemau tafodau, twyni tywod a thraethau dan straen
Bydd mwy o ddŵr yn torri dros y glannau, tonnau’n taro a lefelau dŵr cymedrig uwch yn cyflymu twyni ac yn achosi i dafod Ynyslas-Borth fudo neu gael ei rwygo’n amlach.
Yn achos ein dyffryn ni, mae erydu neu ostwng lefel tafodau a thwyni tywod yn gadael ceg yr aber a'r iseldiroedd cyfagos heb eu diogelu rhag tonnau cryf a llifogydd dŵr heli.
Mae morfeydd heli yn gweithredu’n naturiol i leihau ynni’r tonnau ac yn dal mân. Bydd lefelau dŵr yn codi ynghyd ag amddiffynfeydd môr sefydlog neu seilwaith caled sy’n atal mudo mewndirol (ffenomenon a elwir yn ‘wasgfa ’, lle mae’r dŵr yn cael ei wthio i ardaloedd penodol a ddim yn cael cyfle i ledaenu) yn lleihau maint morfa, gan danseilio amddiffynfa naturiol allweddol.
Os oes gan forfa ddigon o le a digon o waddodion, gall dyfu. Ond gall strwythurau wedi’u hadeiladu atal hyn rhag digwydd.
Difrod i orlifdir a mawndir
Bydd stormydd gaeaf mwy dwys a mwy o ddŵr ffo yn achosi llifogydd amlach yn y gorlifdir isel rhwng Machynlleth ac aber afon Dyfi.
Efallai y bydd gaeafau gwlypach yn ail-wlychu rhai ardaloedd mawn, ond gallai hafau cynhesach a sychach a draenio pellach eu difrodi, gan wanhau gallu’r mawn i storio dŵr ar yr un pryd â rhyddhau i’r atmosffer.
Felly, mae adfer mawn yn gam sy'n ymwneud â gwydnwch a lliniaru newid yn yr hinsawdd.
Symudiad gwastraff mwyngloddio hanesyddol
Yn ystod llifogydd Ceredigion ym mis Mehefin 2012, cafodd gwastraff mwyngloddio a oedd yn cael ei storio mewn tomennydd gwastraff a gorlifdiroedd yn nalgylchoedd Afon Leri, ac Afon Ceulan, eu herydu a’u cludo i lawr yr afon. O ganlyniad, dyddodwyd y grawn mân halogedig hyn ar orlifdiroedd ac mewn amgylcheddau aberol yn nyffryn Dyfi isaf.
Bydd mwy o lifogydd yn ail-symud gwaddod halogedig, yn difrodi ecosystemau ac yn ei gwneud yn anodd defnyddio dulliau rheoli llifogydd, fel cloddio pyllau mewn gorlifdiroedd i storio dŵr llifogydd.
Mwy o aelwydydd, seilwaith a gwasanaethau mewn perygl
Hyd yn oed gydag argloddiau ac amddiffynfeydd lleol, bydd mwy o orlifo a llifogydd adlif yn cynyddu amlder llifogydd ar lefel eiddo, gan arwain at gostau yswiriant uwch a tharfu ar ffyrdd (fel yr A487), y rheilffordd, cyfleustodau a bywoliaeth ar ffermydd.
Mae llifogydd wedi’u halogi a charthion yn gorlifo yn peri risg i iechyd y cyhoedd. Bydd gwybod y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn i gymunedau (fel Borth) a’r hyn sy’n iawn ar gyfer pentrefi mewndirol eraill fel Tal-y-bont yn helpu i reoli peryglon llifogydd yn briodol a lleihau difrifoldeb llifogydd.
Ni fydd newid yn yr hinsawdd yn un sioc i afon Dyfi ond yn broses o bwysau sy’n plethu i’w gilydd – cynnydd yn lefel y môr yn cyflymu, ymatebion gwahanol i afonydd ac arfordiroedd, halogiad o gloddio hanesyddol ac ecosystemau yn newid.
Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw cysylltu adnoddau gwyddoniaeth a pholisi â phenderfyniadau hirdymor a arweinir gan y gymuned. Mae angen i ni hefyd fabwysiadu ymatebion addasol, cynyddol sy’n ffafrio amddiffynfeydd seiliedig ar natur yn cael eu hategu gan warchodaeth adeiledig wedi’i thargedu. Gallwch ddarllen mwy am hyn ym mhennod 6.
Mae’r 50 mlynedd nesaf yn cynnig cyfle: drwy ofalu am ein mawndiroedd, gwneud lle strategol ar gyfer dyfroedd yr aber, a chefnogi cymunedau a thirfeddianwyr i addasu, gall Dyfi ddod yn fodel o wydnwch sy’n gwarchod pobl, natur a threftadaeth.
Bydd unrhyw un sy’n byw neu’n ymweld â afon Dyfi yn gwybod pa mor gyfoethog yw hi o ran bywyd gwyllt. Mae’r ardal yn cefnogi amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd, o systemau riffiau ar y môr a morfeydd heli aberol, drwy goetiroedd coedwig law yr Iwerydd mewn dyffrynnoedd afonydd dwfn, i gynefinoedd mawnog ucheldirol mwy agored a rhostir ar y mynyddoedd o amgylch y rhanbarth.
Mae’r amrywiaeth drawiadol hon o gynefinoedd yn eu tro yn cynnal rhywogaethau di-rif sydd i’w gweld ar draws yr ardal – llawer ohonynt yn brin ac yn gyfyngedig iawn.
Yn y bennod hon, rydym yn archwilio beth yw rhai o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hynny. Rydyn ni hefyd yn edrych ar rai o’r ffyrdd y gallem ddisgwyl i amgylchedd ac aberol deinamig afon Dyfi ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd, lefel y môr a thywydd eithafol yn y dyfodol.
Mae’n amlinellu rhai o’r heriau i reolwyr tir a chadwraeth natur sy’n ceisio diogelu’r rhywogaethau a’r cynefinoedd pwysig a geir yn nalgylch afon Dyfi. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd y gallwn addasu ein gweithgareddau i gynyddu yr ardal anhygoel hon o’r Canolbarth yn wyneb y newidiadau sydd ar y gorwel.
Gweirlöyn Mawr y Waun (Coenonympha tullia)Boda Tinwyn (Circus cyaneus)Gwrid y Gors (Coenophila subrosea)Anemoni Pengrwn (Corynactis viridis)Seren y Morfa (Tripolium pannonicum)Ystifflog (Sepia officinalis)
Cynefinoedd a rhywogaethau unigryw a geir yma yn nalgylch afon Dyfi
Elfen allweddol o ranbarth Dyfi yw ei systemau afonydd, cynefinoedd aberoedd a’r amgylchedd morol.
Mae’r cysylltiad deinamig rhwng y tir a’r môr wedi llywio cymunedau dynol ac ecolegol y rhanbarth ers milenia ac mae’n hollbwysig wrth i ni edrych tua’r dyfodol yn y blynyddoedd nesaf.
Ar y croestoriad hwn rydym yn dod o hyd i rai o gynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf a mwyaf unigryw’r ardal: mae un o gyforgorsydd iseldir mwyaf Cymru wedi ei lleoli rhwng y Borth a Thaliesin (Cors Fochno) sy’n gartref i rywogaethau prin fel Gweirlöyn Mawr y Waun, Gwrid y Gors a Chriced y Gors. Mae Gweirlöyn Mawr y Waun yn löyn byw prin gyda dim ond dyrnaid o gadarnleoedd ar ôl yng Nghymru. Yn nalgylch afon Dyfi, mae poblogaeth ar Gors Fochno yn cynrychioli ymyl deheuol eithaf dosbarthiad y glöyn byw hwn yn y Deyrnas Unedig.
Mae cynefinoedd helaeth o forfeydd heli a gwastadeddau llaid yn pontio ochrau’r afon rhwng Ynys-las a Phennal, ac maent yn eithriadol o bwysig ar gyfer rhywogaethau adar hirgoes ac adar gwyllt sy’n gaeafu fel y Gylfinir, Pioden y Môr a’r Chwiwell.
Mae cynefinoedd twyni tywod Ynys-las yn cynnal amrywiaeth enfawr o rywogaethau planhigion prin fel tegeirian-y-gors cynnar a thegeirian y wenynen, yn ogystal â madfallod y tywod a ailgyflwynwyd yn 2009. Mae’r cynefin hwn hefyd yn gartref i’r tegeirian ysblennydd: tegeirian bach hardd a chain, dim ond yn 2019 y daethpwyd o hyd i’r planhigyn prin hwn yn nalgylch afon Dyfi a dyma’r unig safle y gwyddys amdano yng Nghymru. Mae’n bodoli yn systemau twyni Ynys-las ac yn blodeuo rhwng mis Gorffennaf a mis Awst.
Mae brigiadau creigiog sy’n ymwthio o dir fferm, gwlyptiroedd a chynefinoedd ’r aber yn cynnal hen goetiroedd derw aeddfed lle mae adar mudol fel y gwybedog brith, Telor y Coed a’r Tingoch yn bridio yn y gwanwyn.
Y tu hwnt i’r traethlin, gallwn weld dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd a mannau bwydo tymhorol pwysig ar gyfer adar y môr fel adar drycin Manaw, yn ogystal â systemau riff unigryw sy’n gysylltiedig â chlogfeini rhewlifol aruthrol Sarn y Bwch (ger Tywyn) a Sarn Gynfelyn (ger Aberystwyth).
Dyma ychydig mwy o’r yr adar a’r anifeiliaid prin sydd i’w gweld yma yn nalgylch afon Dyfi:
Aber afon Dyfi yw un o ddim ond dau le yng Nghymru lle mae’r gwyddau prin iawn hyn yn treulio eu gaeafau. Ar hyn o bryd, mae poblogaeth y byd yn 18,000, ac yn anffodus mae eu niferoedd yn gostwng bob blwyddyn, yn bennaf oherwydd llwyddiant bridio gwael yn yr Arctig.
Mae gan ddalgylch afon Dyfi un o’r poblogaethau bridio mwyaf yng Nghymru a’r unig boblogaeth hyfyw yn Ne a Chanolbarth Cymru. Arferai fod yn aderyn cyffredin ar dir amaethyddol, ond mae bellach wedi ei gyfyngu i ardaloedd lle mae rheolaeth wedi ei thargedu ar gyfer y rhywogaeth hon.
Mae afon Dyfi yn enwog am y pâr bridio yng Nghors Dyfi ac mae’n dangos bod mesurau cadwraeth yn gallu gwrthdroi tynged rhywogaethau prin. Mae hefyd yn sbardun economaidd pwysig yn yr ardal.
Mae gan ddalgylch afon Dyfi boblogaeth uchel o’r mamal carismatig hwn o amgylch ei chynefinoedd afon, gwlyptir ac . Mae’n rhywogaeth sy’n gofyn am amgylchedd dyfrol iach gyda mannau diogel i iddynt.
Mae afon Dyfi yn fan pysgota enwog ar gyfer eogiaid a Brithyll y Môr, math o frithyll brown sy’n mudo i’r môr. Mae’r ddwy rywogaeth wedi dirywio’n ddramatig dros y blynyddoedd ac maent yn bwysig i gadwyn fwyd Dyfi a bywoliaeth pobl leol.
Mae pwysigrwydd afon Dyfi i fywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol – ar dir ac ar y môr – yn cael ei adlewyrchu yn y llu o ddynodiadau sydd gan yr ardal o Ewrop a’r Deyrnas Unedig.
Er enghraifft, mae holl ddalgylch Dyfi wedi’i ddynodi’n warchodfa Biosffer UNESCO (yr unig un o’i bath yng Nghymru) i gydnabod ei phwysigrwydd ecolegol a diwylliannol enfawr.
Mae Aber afon Dyfi, system Twyni Ynys-las a chynefin cyforgors iseldir Cors Fochno yn ffurfio Gwarchodfa Natur Genedlaethol sylweddol, gydag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig penodol a gwlyptiroedd i’w gweld yma.
Ymhellach i ffwrdd yn yr ucheldir ceir Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dirifedi, gan gynnwys llwyfandir ucheldirol aruthrol Pumlumon – gydag adar yr ucheldir a’i gasgliadau o lystyfiant ucheldirol. Mae arfordir a rhanbarth morol Dyfi yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig forol lawer ehangach sy’n ymestyn o’r systemau riff oddi ar Aberystwyth yr holl ffordd i fyny ac i arfordir Pen Llŷn yn y Gogledd – Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (‘PLAS SAC’). Mae’r dynodiad hwn nid yn unig yn cydnabod y rhywogaethau pwysig sydd i’w cael ar y môr, ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth gymhleth o gynefinoedd sy’n bodoli o’r lan i’r môr: o ddyfroedd cysgodol yr aber gyda’i gwastadeddau llaid, morfeydd heli a sianeli llanw, i draethau creigiog gydag ogofâu môr a chymunedau gwymon, i goedwigoedd môrwiail a systemau riffiau ar y môr.
Mae aber yr afon Dyfi yn fiosffer UNESCO ac yn rhan o warchodfa natur genedlaethol sy’n cynnwys Cors Fochno, twyni tywod Ynyslas, Gwarchodfa Natur RSPB Ynys-hir a Phrosiect Gweilch Dyfi. Gyda’i gilydd, mae dynodiadau o’r fath yn darparu fframwaith pwysig ar gyfer arwain gweithgareddau cadwraeth, defnydd tir a morol yn yr ardal, yn ogystal â darparu cyfleoedd cyllido ar gyfer gwaith adfer a gweithgareddau sydd o blaid natur.
Fel y disgrifiwyd ym mhennod dau, mae afon Dyfi wedi newid dros amser, a bydd yn parhau i newid yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r fforest ‘betraidd’ ar draeth y Borth ac Ynys-las yn brawf o’r ffaith bod ecosystemau yn nalgylch afon Dyfi wedi bod yn wahanol iawn yn y gorffennol: lle mae’r arfordir yn bodoli erbyn hyn, roedd unwaith yn cynnal coedwig enfawr y mae ei boncyffion bellach i’w gweld ar lanw isel, wedi eu cadw mewn mawn o dan y dyfroedd.
Mae newid yn rhywbeth cyson ym myd natur, ac eto mae cyflymder y newid yn yr hinsawdd presennol a achosir gan bobl yn eithriadol. Mae rhywogaethau a chynefinoedd yn llawer llai abl i addasu i gyflymder y newid presennol – ond mae ffyrdd y gallwn helpu bywyd gwyllt i oroesi’r newidiadau a gweithio law yn llaw â byd natur i helpu ein hunain i ymdopi â’r newidiadau hefyd.
Yn nalgylch afon Dyfi, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y dirwedd a’i hecoleg yn cynnwys difrifoldeb ac amlder cynyddol stormydd, llifogydd a sychder, tanau gwyllt, cynnydd yn lefel y môr a newidiadau yn y rhywogaethau sy’n gallu bodoli yma. Mae’r aber a’r glaswelltiroedd, mawnogydd, corsydd a choetiroedd o’i hamgylch yn arbennig o agored i’r cyfuniad o lefel y môr yn codi a stormydd cynyddol. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd nifer o addasiadau y mae pobl wedi eu creu yn y dirwedd.
Cyn dylanwad dynol, byddai’r aber wedi bod yn amgylchedd deinamig iawn a oedd yn newid o hyd: ildiodd cynefinoedd fel (cymysgedd o ddŵr hallt a ffres) i fawnogydd a choetiroedd, a byddai’r rhyngweithio rhwng y cynefinoedd hyn wedi cynyddu a lleihau dros amser yn ôl lefel y môr. Tarfwyd ar y cylch naturiol hwn gan bobl drwy godi amddiffynfeydd rhag llifogydd, cloddio sianeli draenio ac adeiladu’r rheilffordd bresennol. Mae canlyniad y strwythurau hyn wedi creu rhaniad artiffisial rhwng yr aber heli, y fawnog dŵr croyw a thir amaethyddol.
Dros amser, mae bywyd gwyllt wedi addasu i’r newidiadau hyn. Er enghraifft, arferai’r tir isel yn Ynys-hir, a elwir yn laswelltir gwlyb yr iseldir, fod yn fawnog ond erbyn hyn mae’n laswelltir amaethyddol. Mae’n cynnal poblogaeth fridio pwysicaf Cymru o adar hirgoes, gyda nifer fawr o gornchwiglod, pibyddion coesgoch a giachod, ac mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las, sy’n adar prin, yn dibynnu ar y glaswelltir gwlyb iseldirol hwn am lawer o’r gaeaf. Cynnydd yn lefel y môr a achosir gan newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn nifer y stormydd bellach yn bygwth y cynefinoedd sydd wedi cael eu creu yn yr ardaloedd hyn. Gall llifogydd arwain at ddŵr yn gorlifo i gaeau amaethyddol a glaswelltiroedd gwlyb ar dir isel. Gall hyn ladd creaduriaid di-asgwrn-cefn y pridd, sy’n ffynhonnell fwyd hanfodol i’r adar hirgoes sydd bellach yn dibynnu ar y cynefinoedd hyn. Mae’r merddwr hefyd yn difrodi ac yn diraddio tir amaethyddol. Mae’r amseroedd adfer yn araf a gall gymryd misoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed, cyn i’r poblogaethau o greaduriaid diasgwrn- cefn gael eu hadfer.
Yr her y mae rheolwyr tir, gan gynnwys cadwraethwyr, yn ei hwynebu o amgylch aber afon Dyfi yw sut i addasu i’r newidiadau hyn i ddiogelu natur, gan dderbyn y gallai rhai cynefinoedd a rhywogaethau gael eu colli.
Rhaid i ni hefyd edrych ar ardal afon Dyfi yn ei chyfanrwydd a chydbwyso anghenion natur yn erbyn blaenoriaethau eraill o’n cwmpas, fel atal llifogydd mewn eiddo a seilwaith, a’r effaith ar fywoliaeth pobl wrth i ddefnydd tir traddodiadol ddod yn fwy heriol.
Efallai y bydd sefyllfaoedd lle gall natur roi help llaw i ni hefyd.
Pan fydd ecosystem yn colli cydbwysedd, neu’n cael ei rhoi dan bwysau cynyddol gan newid yn yr hinsawdd, gall gynnig ymateb cynaliadwy ac effeithiol. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r dulliau hyn yn defnyddio rhywogaethau, cynefinoedd a phrosesau naturiol i adfer a chryfhau amgylcheddau a’r systemau sy’n dibynnu arnyn nhw.
Mewn sawl achos, byddai’r rhywogaethau neu’r strwythurau naturiol sy’n cael eu cynnal neu eu hailgyflwyno wedi bodoli yn yr ecosystem yn hanesyddol. Dros amser, fodd bynnag, efallai eu bod wedi cael eu colli neu eu diraddio oherwydd ffactorau fel hela, datblygiad dynol, llygredd, neu gyflwyno rhywogaethau goresgynnol. Felly, mae yn aml yn golygu adfer prosesau naturiol neu rywogaethau allweddol a oedd unwaith yn helpu i reoleiddio a chydbwyso’r system.
Gall gynnig dewis mwy parhaol yn lle strwythurau peirianneg sifil drud sydd wedi eu dylunio i’r un diben. Er enghraifft, mae gan waliau concrid neu argloddiau wedi eu llenwi â phridd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd oes benodol ac maent yn cynrychioli llinell sefydlog denau. Ar ôl iddynt gael eu bylchu, gall dŵr orlifo dros ddarn mawr o dir y tu ôl iddynt, gan gyflwyno newid sydyn a dramatig iawn.
Mae rhai cynefinoedd naturiol sy’n gallu gwasgaru ynni llifddyfroedd ac amsugno dŵr yn ystod y digwyddiadau hyn. Mae cynefinoedd morfeydd heli’n ffurfio ystod eang o lystyfiant sy’n cynnwys amrywiaeth o blanhigion sy’n gallu goddef natur dŵr aberol. Maent fel arfer yn ffurfio ar waddodion aberol uwchben y llinell llanw isel ac maent wedi eu lleoli ar y llwyfannau lefel uwch wrth ymyl cilfachau mwdlyd, ac uwchben gwastadeddau llaid a thywod.
Mae yn gweithredu fel rhwystr amddiffynnol o amgylch rhan helaeth o aber afon Dyfi. Fodd bynnag, mae dan fygythiad oherwydd bydd lefelau’r môr sy’n codi yn suddo ymyl isaf y morfa yn barhaol, gan arwain at golled sylweddol. Ar hyn o bryd, prin yw’r ardaloedd lle gall ffurfio ymhellach i fyny ymylon y llinell penllanw oherwydd nodweddion sefydlog – fel arglawdd y rheilffordd – sy’n atal llawer o’r dŵr llanw rhag llifo ymhellach i mewn i’r tir. Efallai y bydd rhai ardaloedd lle gallai’r strwythur hwn gael ei fylchu’n fwriadol – ar yr amod bod y rheilffordd yn cael ei diogelu a bod meysydd allweddol o dir amaethyddol cynhyrchiol yn cael eu hosgoi. Gallai bylchu mewn rhai ardaloedd allweddol ganiatáu i ardaloedd newydd o forfa heli ymsefydlu, gan adfer ffin naturiol amddiffynnol llystyfiant. Morwellt (
Ymhellach o’r lan, mae amrywiaeth o ddulliau ‘meddal’ ar sail natur a all helpu yn ein hymdrech i leddfu effeithiau newidiadau a achosir gan yr hinsawdd. Er mwyn mynd i’r afael â llifogydd mawr, gallwn edrych i fyny’r afon i’r ehangach a cheisio arafu llif dŵr llifogydd sy’n cyrraedd yr aber drwy ei isafonydd a’i hafonydd. Gall arafu llif afonydd yn ystod cyfnodau o law trwm a stormydd gynnwys amrywiaeth eang o gamau cyfannol: mae arferion rheoli tir adfywiol yn helpu i wella iechyd pridd, ac mae priddoedd iach yn llawer mwy abl i amsugno dŵr – gan arwain at lai o ddŵr ffo yn cyrraedd afonydd yn y lle cyntaf. Gallwn edrych ar ardaloedd lle gellir plannu lleiniau clustogi o goed yn agos at gyrsiau dŵr, sy’n lleihau’r dŵr ffo i afonydd ymhellach. Gellir adeiladu ‘argaeau sy’n gollwng’ gyda phentyrrau o ganghennau coed a boncyffion, gan ffurfio rhwystrau sy’n gollwng ac sy’n arafu llif dŵr.
Mae nifer o brosiectau ysbrydoledig eisoes yn lleol sy’n defnyddio dulliau o’r fath i fynd i’r afael â llifogydd: yn rhanbarth Tal y Bont, mae grŵp cymunedol wedi bod yn gweithio gyda thirfeddianwyr lleol a ffermwyr i adeiladu argaeau sy’n gollwng, yn ogystal â phlannu cannoedd o wrychoedd a miloedd o goed yn y dalgylchoedd cyfagos i helpu i leihau’r posibilrwydd o lifogydd yn y dyfodol. Yn rhanbarth Pennal o aber afon Dyfi, mae grŵp mawr o dirfeddianwyr a ffermwyr wedi dod at ei gilydd i greu partneriaeth ‘Pennal 2050’: mae hon yn ceisio defnyddio technegau rheoli llifogydd naturiol i fynd i’r afael â’r perygl o lifogydd yn yr ardal. Mae’r prosiect wedi gosod llu o argaeau sy’n gollwng yn y , wedi gwella iechyd pridd ar ddarn mawr o dir amaethyddol, ac wedi plannu coetiroedd, gwrychoedd a stribedi o goed i fynd i’r afael ymhellach â’r perygl o lifogydd.
Ateb arall sy’n seiliedig ar Natur yw igamogamu afonydd eto. Yn hanesyddol, roedd prosiectau adfer tir yn cynnwys cloddio cyrsiau dŵr newydd a sythu afonydd presennol – enghraifft o hyn yw rhan isaf Afon Leri, yn agos at gyforgors iseldir Cors Fochno. Mae adfer afon i ymdroelli eto yn gwneud yr afon dros deirgwaith yn hirach rhwng dau bwynt sefydlog. Mae’r cynnydd hwn mewn hyd yn caniatáu amsugno ynni’r llifddwr ar bob tro, gan arafu’r dŵr a lleihau dwyster rhai llifogydd.
Cambig (Recurvirostra avosetta)
Cynnal cydbwysedd gofalus
Dros amser, mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd wedi dirywio ac mae cost eu huwchraddio i gwrdd â’r cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol a gwrthsefyll stormydd yn eithriadol o uchel. Er ein bod eisiau gwarchod y rhywogaethau sy’n byw yma yn afon Dyfi, mae dealltwriaeth hefyd y bydd yn rhaid i ni addasu i bwysau newydd sy’n effeithio ar yr ardal.
Gallai rhoi newidiadau ac addasiadau ar waith mewn ffordd reoledig alluogi creu cynefinoedd newydd yn afon Dyfi, a thrwy hynny efallai y byddem yn croesawu rhywogaethau newydd y mae eu dosbarthiad yn newid ymhellach i ffwrdd. Er enghraifft, mae newid yn yr hinsawdd yn gorfodi adar sydd i’w gweld fel arfer yn Ewrop i symud tua’r gogledd, fel y crëyr copog, y llwybig, y cambig a’r hirgoes. Bydd sicrhau bod digon o gynefinoedd amrywiol yn bodoli ar draws afon Dyfi yn bwysig er mwyn sicrhau bod rhywogaethau o’r fath yn gallu dod o hyd i gartref newydd ar ôl cael eu dadleoli o’u rhanbarthau magu presennol ymhellach i’r de.
Dyfrgi (Lutra lutra)
Casgliad
Mae aber afon Dyfi yn wynebu heriau sylweddol yn sgil newid yn yr hinsawdd dros y degawdau nesaf, gan effeithio ar ei chynefinoedd naturiol a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnynt. Wrth i ni wynebu moroedd sy’n codi, stormydd yn dwysau, ac ecosystemau’n symud, mae’n hanfodol croesawu atebion sydd nid yn unig yn gwarchod bioamrywiaeth ond hefyd yn gwella y gymuned leol – gall y rhain gynnwys sy’n gweithio law yn llaw â natur, ond mae’n rhaid iddynt gael eu llywio gan ddeialog ofalus gyda’r bobl hynny sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal arbennig hon o Gymru. Rhaid taro cydbwysedd gofalus rhwng ymdrechion cadwraeth ac anghenion economaidd yr ardal, gan feithrin cydweithrediad rhwng rheolwyr tir, cadwraethwyr a’r cyhoedd. Drwy flaenoriaethu strategaethau rheoli addasol, gallwn greu dyfodol cynaliadwy lle mae’r amgylchedd a bywoliaeth pobl leol yn ffynnu, gan sicrhau bod aber afon Dyfi yn parhau i fod yn noddfa i fywyd gwyllt tra’n dal i fod yn rhan hanfodol o’n cymuned.
PENNOD PUMP:Addasu arfordirol
yw’r broses o addasu i gynnydd presennol neu ragfethog yn lefel y môr, erydu a chefniriau y newidi yn yr hinsawdd i fethrin mewn cymunedau ac amgylcheddau .
Mae rhan o’r broses hon yn cynnwys creu Cynlluniau Rheoli Traethlin. Maent yn darparu fframwaith strategol, hirdymor ar gyfer rheoli risgiau llifogydd ac erydu .
Maent yn asesu sut mae gwahanol ddarnau o arfordir yn debygol o newid ac yn nodi dulliau rheoli a ffefrir – fel dal y llinell, adasol neu gynlluniedig, neu ddim ymyrraeth weithredol – dros orwelion 20, 50 a 100 mlynedd.
Eu pwrpas yw cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd fel y gellir diogelu cymunedau, seilwaith a chynefinoedd mewn ffordd gynaliadwy a chydlynol.
Strategaethau addasu ar gyfer rheoli’r arfordir
Y pedair prif strategaeth addasu a ddefnyddir mewn cynlluniau rheoli traethlin yw:
cynnal y llinell
symud y llinell
adasol neu gynlluniedig
dim ymyrraeth weithredol
Mae’r strategaethau hyn i gyd yn seiliedig ar ddata gwyddonol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Hawlfraint y Goron (2026) Cymru Wales
Cynnal y llinell
Mae ‘cynnal y llinell’ yn ymarferol a ddefnyddir wrth reoli’r arfordir i ddisgrifio ffordd o gadw’r arfordir yn ei safle presennol ac atal y môr rhag ymyrru lle nad oes ei eisiau.
Ar rannau breus o’r arfordir lle mae cynnal y llinell yn bwysig, mae’n hanfodol deall sut mae deinameg (sut mae’r cerrynt, patrymau tonnau, gwynt, llif a gwaddod symudol yn siapio ein harfordir) a sut bydd gwahanol opsiynau amddiffyn yr arfordir yn ymateb i’r amgylchiadau ffisegol.
Cyn penderfynu pa amddiffynfeydd i’w hadeiladu, mae peirianwyr yn astudio ac yn modelu deinameg . Maent hefyd yn edrych ar sut bydd gwahanol amddiffynfeydd yn ymddwyn ac yn ceisio rhagweld sut byddant yn effeithio ar y prosesau naturiol ar hyd yr arfordir (y ddolen adborth ). Mae hyn yn bwysig oherwydd gall dewis yr opsiwn anghywir i amddiffyn yr arfordir newid deinameg yr arfordir a gweithio yn erbyn cynnal y llinell.
Defnyddiwyd strategaeth cynnal y llinell yn amddiffynfeydd môr presennol y Borth. Mae’r amddiffynfeydd newydd yn cynnwys clogfeini enfawr ac argrau creigiau, a morgloddiau siâp cynffon pysgod, ynghyd â riff, sydd hefyd yn gwella amodau syrffio.
Symud y llinell
Dyma lle mae amddiffynfeydd newydd yn cael eu hadeiladu ymhellach i’r môr, gan ymestyn amddiffynfeydd presennol ac adennill tir yn y broses.
adasol neu gynlluniedig yw lle mae’r glannau’n cael eu symud yn ôl, gyda rheolaeth i reoli neu gyfarwyddo’r symudiad. Os yw ardal mewn perygl uchel o , gallai ail-lunio’r arfordir fod yn opsiwn.
Yn aml, mae adasol neu gynlluniedig yn cynnwys llifogydd dan reolaeth ardal o’r iseldir i leddfu effaith y .
Yn Ynys Ddyfi, byddai hyn yn golygu amddiffynfa a chydweithrediad gofalus gyda grwpiau cadwraeth, defnyddwyr a pherchnogion tai sydd â thir neu eiddo isel.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen adasol neu gynlluniedig, ynghyd â chreu cynefinoedd morol, i wneudu iawn am golli amgylchedd dal y llinell (lle mae Ardalwedd Gwarchodedig Morol yn cael eu heffeithio gan wasgfa ).
Er bod adasol neu gynlluniedig fel arfer yn berthnasol i ardaloedd isel sydd mewn perygl o lifogydd, gellir ei gymhwyso’n gyfartal i ardaloedd clogwyni i helpu i leihau cyfradd y am gyfnod o amser.
Mae rhai costau hefyd yn gysylltiedig ag adasol neu gynlluniedig. Bydd angen tynnu neu ailgynllunio rhai amddiffynfeydd, ac mae angen diogelu perchnogion tai ac eiddo yn ariannol.
Ond mae’r strategaeth hon yn costio llai o gymharu â thalu am amddiffynfeydd môr newydd. Mae hefyd yn creu , a all gymryd llawer o rywogaethau ac sy’n gweithredu fel amddiffynfa naturiol yn erbyn a llifogydd.
Fodd bynnag, trwy’r strategaeth hon, mae tir yn cael ei ollwng, wrth iddo gael ei adennill gan y môr. Bydd hyn yn effeithio ar fywoliaeth, cartrefi pobl a’r hyn a’r diwylliant sy’n gysylltiedig â’r tir.
Beth yw ?
Mae yn golygu colli neu ddirywio cynefinoedd naturiol ar y traethlin – fel traethau a morfeydd heli – sy’n deillio o gael eu dal rhwng amddiffynfeydd o waith dyn a lefel y môr yn codi. Mae hyn yn atal yr arfordir rhag symud mewn i’r tir fel y byddai’n ei wneud fel arfer.
Dim ymyrraeth weithredol
Dyma’r strategaeth ‘gwneud dim’ – felly nid oes buddsoddiad mewn gosod na chynnal a chadw amddiffynfeydd. Lle nad oes amddiffynfeydd yn bodoli’n barod, bydd y draethlin yn parhau i esblygu’n naturiol.
Mae ardaloedd sydd ag amddiffynfeydd môr ar hyn o bryd y gellir gadael iddynt esblygu’n fwy naturiol drwy beidio â’u hatgyweirio pan fyddant yn chwalu, a allai gynyddu mwy o berygl o lifogydd neu erydu . Fel arall, mae’n bosibl y bydd yr hen amddiffynfeydd yn cael eu dileu er mwyn rhoi strategaeth ‘gwneud dim’ ar waith.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar fersiwn nesaf y cynlluniau rheoli traethlin i greu Strategaeth Addasu ar yr Arfordir rhwng y Borth ac Ynyslas, fel y disgrifir ym Mhennod 6.
Sut mae cymunedau eraill yn meithrin
Enghraifft dda o gymunedau eraill sy’n meithrin yng Nghymru yw Fforwm Arfordir Sir Benfro, sydd wedi creu Pecyn Cymorth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer y sir. Mae’r pecyn cymorth wedi cael ei gymeradwyo’n swyddogol fel Gweithgaredd Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig, gan gydnabod cyfraniad y prosiect at ymdrechion rhyngwladol i feithrin perthynas fwy cynaliadwy â chefnforoedd y byd.
Achosion diweddar o dorri amddiffynfeydd llifogydd a wnaed gan ddyn
1990: Eiddo wedi dioddef llifogydd o ganlyniad i Afon Ddu yn gorlifo ei glannau
1997: Afon Leri i yn gorlifo ei glannau yn helaeth
2001: Torri amddiffynfeydd llifogydd
2007: Torri glan ochr dde Afon Ddu
2012: Gorlif ar ôl llifogydd helaeth ar afonydd; effeithio ar ddeugau o eiddo a charafanau
2014: Gorlif ; nifer o eiddo a gerddi wedi eu heffeithio
2016: Gorlif ; eiddo wedi eu heffeithio
2017 & 2018: Gorlif a difrod i amddiffynfeydd
2019: Sawl achos o dorri argloddiau Afon Leri
Awst 2020: Un o’r amddiffynfeydd a atgyweiriwyd yn methu
Maw 2020: Torri glannau dwyreiniol Afon Leri; angen atgyweiriadau brys
2021: Llifogydd lleol oherwydd difrod i arglawdd
2022: Torri drwy’r coed i’r de o Dwyni Dyfi; difrod a llifogydd
Dogfennau a chanllawiau ffurfiol yw polisïau sy’n cael eu gweithredu gan sefydliadau. Maent yn sicrhau cysondeb a gwneud penderfyniadau effeithiol. Pan fyddwn yn cyfeirio at bolisi morol Cymru, gallwn edrych ar gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau datganoledig Cyfoeth Naturiol Cymru, ond hefyd ar awdurdodau lleol a’u rôl o ran gweithredu a dilyn polisïau.
Gall polisïau’r Llywodraeth gael effaith ddifrifol ar ein bywydau. Mae’n bwysig deall pwysigrwydd am wahanol bethau er mwyn gwybod sut gallwn ni sicrhau newid. Yn aml, gall deall ffiniau gwahanol sefydliadau’n rhoi atebolrwydd a chyfrifoldeb yn ôl i’r cyffyr neu sefydliadau eraill y Llywodraeth. Drwy ddeall pa gorff rheoleiddio sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol, rydym mewn sefyllfa well i ofyn am gymorth a diddaliad gywir.
Mae’r bennod hon yn nodi polisïau pwysig sy’n ymwneud â Chymru a’r arfordir, newid yn yr hinsawdd a rheoli llifogydd.
Cofiwch fod polisïau’n newid dros amser. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddiweddaru’r bennod hon, ond dyma’r fersiwn fwyaf cywir fel yr oedd pethau ym mis Ionawr 2026.
Pwy sy’n gyfrifol am atal llifogydd a’r arfordir yng Nghymru?
Mae cyfrifoldeb yn cael ei ddal ar y cyd rhwng sawl corff.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu cyfeiriad strategol ac amcanion ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac yn blaenoriaethu cyllid rheoli perygl llifogydd. Mae hefyd yn gosod y polisi ar gyfer erydu .
Mae’n gweithredu fel Awdurdod Rheoli Risg yn ei ddyletswyddau fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd. Mae Awdurdodau Rheoli Risg yn sefydliadau sydd â chyfrifoldeb statudol dros reoli perygl llifogydd ac erydu .
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am gynllunio a thrwyddedu morol a pholisi bioamrywiaeth morol, a’r strategaethau cenedlaethol ar gyfer datgarboneiddio ac addasu i’r hinsawdd.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu goruchwyliaeth gyffredinol ac yn cyfathrebu ynghylch rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae ganddo hefyd rôl aruchwylio ehangach ar gyfer yr holl waith rheoli perygl llifogydd ac erydu yng Nghymru.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl statudol eang sy’n canolbwyntio ar reoli, diogelu a gwella amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Mae dyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â pherygl llifogydd yn cynnwys:
Adrodd i’r Gweinidog ar y perygl o lifogydd ac erydu yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio’r Strategaeth Genedlaethol
Gweithredu fel cynghorydd, ymgynghorai a rheoleiddiwr
Gweithredu fel rheolwr tir mwyaf Cymru\Dynodi ardaloedd gwarchodedig
Rhagfynegi, rhybuddio a rhoi gwybod am lifogydd posibl a gwirioneddol o bob ffynhonnell llifogydd ar y cyd â phartneriaid yn y Swyddfa Dywydd
Dynodi strwythurau neu nodweddion penodol sy’n effeithio ar berygl llifogydd neu erydu
Mapio perygl llifogydd
Cynnal amddiffynfeydd llifogydd
Ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys Cynllun Ymdrin â’r Newid yn yr Hinsawdd 2023–2027)
Cydlynu ymatebion i argyfyngau
Rhaid iddo hefyd ddilyn a chymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Awdurdodau lleol fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ac Awdurdodau Priffyrdd
Mae gan yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), sef Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer rhanbarth Borth i Ynys-hir, gyfrifoldebau a phwerau i reoli llifogydd o ffynonellau lleol sy’n cynnwys cyrsiau dŵr cyffredin (sianeli naturiol neu artiffisial y mae dŵr yn llifo drwyddynt, gan gynnwys nentydd, ffosydd, draeniad a chwlfertau, ond nid ydynt yn cynnwys prif afonydd), dŵr wyneb a dŵr daear. Mae hefyd yn rheoli draenio priffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd) fel yr Awdurdod Priffyrdd.
Mae’r dyletswyddau y mae’n rhaid i Gyngor Sir Ceredigion eu cyflawni yn cynnwys:
Paratoi Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Cydymffurfio â’r Strategaeth Genedlaethol
Cydweithredu ag awdurdodau eraill
Ymchwilio i bob achos o lifogydd yn yr ardal
Cadw rhestr o strwythurau a nodweddion a allai effeithio ar y perygl o lifogydd
Yn ogystal, mae gan Gyngor Sir Ceredigion bwerau caniataol – mae hyn yn golygu nad oes dyletswydd i weithredu, ond gall wneud y pethau hyn os yw’n dewis gwneud hynny.
Mae hyn yn cynnwys y pwerau i:
Wneud cais am wybodaeth am lifogydd a draenio
Dynodi rhai strwythurau sy’n effeithio ar y perygl o lifogydd/erydu
Gwneud gwaith i gynnwys camau rheoli risg ehangach
Mae’r Cyngor hefyd yn gallu achosi llifogydd neu erydu dan rai amodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am reoli perygl llifogydd lleol ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.
Ymhellach i fyny’r aber, ceir gwahanol awdurdodau lleol arweiniol, sef Gwynedd a Phowys, lle mae’r egwyddorion a’r cyfrifoldebau yr un fath, ond mae gan y sir o fewn ei hardaloedd nhw o’r rhanbarth .
Polisïau, cynlluniau a strategaethau ar waith yng Nghymru
Mae’r holl reolau a rheoliadau hyn yn helpu i warchod y môr, yr arfordir a chymunedau ledled Cymru.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mandadu pum ffordd o weithio i gyrff cyhoeddus ystyried effeithiau hirdymor, cydweithio ac annog cyfranogiad mewn penderfyniadau i fynd i’r afael â materion fel tlodi a newid yn yr hinsawdd.
Un enghraifft o sut mae’r ffyrdd hyn o weithio yn cael eu gweithredu yn y ddarpariaeth yw Y Môr a Ni (menter sydd â’r nod o wella’r berthynas rhwng pobl a’r môr), y fframwaith llythrennedd cefnforol ar gyfer Cymru.
Y Môr a Ni yw strategaeth genedlaethol gyntaf y Deyrnas Unedig ar lythrennedd morol. Ei nod yw meithrin dealltwriaeth o sut mae pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cysylltu ag arfordiroedd a moroedd Cymru.
Mae hefyd yn ceisio pennu effaith ein gweithredoedd unigol a chyfunol ar iechyd cefnforoedd – a’u heffeithiau arnom ni – er mwyn i ni i gyd weithio sut rydym yn rheoli ac yn defnyddio ein harfordiroedd a’n moroedd.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn sefydlu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yng Ngymru. Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yw pwrpas craidd Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n elfen allweddol o ddull cydgysylltiedig o wella llesiant y genedl ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Yr amcan yw cynnal a gwella ecosystemau a’r buddion maent yn eu darparu. Mae hefyd yn ymwneud â diwallu anghenion pobl heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a rhan 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cydweithio i gefnogi saith nod llesiant:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Yn ôl GOV.UK, mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn darparu modd o reoli perygl llifogydd yn well ac yn fwy cynhwysfawr i bobl, cartrefi a busnesau, yn helpu i ddiogelu grwpiau cymunedol rhag codiadau na ellir eu fforddio mewn taliadau draenio dŵr wyneb, ac yn diogelu cyflenwadau dŵr i’r defnyddwyr.
Mae’r Ddeddf hefyd yn diffinio awdurdodau rheoli perygl llifogydd fel ‘sefydliadau sydd â chyfrifoldeb statudol dros reoli perygl llifogydd ac erydu ’.
Yng Ngheredigion, y rhain yw:
Cyngor Sir Ceredigion (fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Dŵr Cymru
Cyngor Sir Ceredigion (fel yr Awdurdod Priffyrdd)
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth CymruBorth to Ynys-hir Coastal Adaptation Plan
Cynllun o’r Borth i Ynys-hir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn gweithio ar hyn o bryd ar gynllun o’r Borth i Ynys-hir.
Amcanion y cynllun yw:
Diogelu cymunedau rhag llifogydd
Gweithio gyda’r gymuned
Cefnogi economi leol ffyniannus
Gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Cefnogi natur a’r amgylchedd
Y nod yw creu cynllun rheoli y gellir ei addasu a fydd yn darparu map ar gyfer camau gweithredu i wneud y mwyaf o amddiffyn cymunedau sydd mewn perygl rhag llifogydd ar yr un pryd â rheoli’r gwaith o addasu i lefel y môr yn codi dros y 100 mlynedd nesaf.
Mae allweddol yn cynnwys Network Rail; Scottish Power; Senedd Cymru; Llywodraeth Cymru; Cyngor Sir Ceredigion; Trafnidiaeth Cymru; Cyngor Cymuned y Borth; Borth 2030; Prifysgol Aberystwyth; Undeb Amaethwyr Cymru; RSPB; Tir Canol; Natura 2000; a rhaglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd.
Mae cynllunio a thrwyddedu morol yn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu ein moroedd yn gynaliadwy, fel y nodir yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (2009).
Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn nodi polisïau i lywio’r defnydd o’n moroedd.
Mae polisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ymdrin â phynciau fel:
Gwarchod natur
Ansawdd dŵr
Morweddau
Cymunedau a thwf economaidd
Trefiadaeth
Y gallu i wrthsefyll newid a llifogydd
Mae ei bolisïau sector yn cwmpasu pob math o weithgareddau, o garthu ac (tywod, graean a chreigiau mân sydd wedi eu carthu o wely’r môr) i gynhyrchu ynni (adnewyddadwy ac anadnewyddadwy), porthladdoedd, llongau a thwristiaeth ac adloniant.
Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru
Mae Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru yn cynnwys tua 69% o arwynebedd glannau Cymru (hyd at 12 milltir forol) ac mae’n cynnwys:
107 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
1 Parth Cadwraeth Morol
3 safle (gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol)
13 Ardal Gwarchodaeth Arbennig
15 Ardal Cadwraeth Arbennig
Mae’r ddelwedd yn fap o Gymru a’r dyfroedd cyfagos sy’n dangos safleoedd cadwraeth morol ac dynodedig.
Mae’r allwedd yn nodi’r dynodiadau canlynol:
107 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a ddangosir mewn coch
1 Parth Cadwraeth Morol, a ddangosir mewn melyn
3 safle (gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol), a ddangosir mewn oren
13 Ardal Warchodedig Arbennig, a ddangosir gydag amlinelliadau gwyrdd
15 Ardal Cadwraeth Arbennig, a ddangosir gydag amlinelliadau glas tywyll
Mae’r dynodiadau mapio wedi’u dosbarthu o amgylch arfordir Cymru, gan gynnwys gogledd Cymru, Bae Aberteifi ac arfordir de Cymru. Mae sawl dynodiad yn ymestyn oddi ar y lan i ddyfroedd morol.
Mae llinell ffin doredig yn nodi’r ffin gynllunio forol neu awdurdodaethol ehangach o amgylch Cymru. Mae’r nodyn ar y map yn nodi bod cynefin uwchlaw marc dŵr y llanw uchel cymedrig wedi’i eithrio. Mae’r ddelwedd yn dangos crynodiad a dosbarthiad ardaloedd morol ac gwarchodedig o amgylch Cymru.
Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru
Nod y Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru yw cadw rhwogaethau a chynefinoedd ar y tir, mewn dŵr croyw, yn y moroedd ac ar yr arfordir mewn cyflwr ecolegol da, fel eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’r strategaeth hefyd yn ymdrin â seilwaith, llifogydd a dulliau addasu.
Mae hyn yn cynnwys:
Cadw ardaloedd gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol.
Cynyddu amrywiaeth, maint, cysylltedd a chyfoeth rhyngwladol cynefinoedd ar draws pob ardal. Mae hyn yn arwain at ecosystemau mwy cydnerth a llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr o storfeydd naturiol (lleoedd ym myd natur sy’n gallu amsugno a dal am gyfnod).
Defnyddio atebion sy’n fwy seiliedig ar natur, sy’n cael eu hamlinellu’n fanwl ym mhennod 4.
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu yng Nghymru
Mae hwn yn nodi dull gweithredu cynhwysfawr a mesurau hirdymor ar gyfer lleihau’r risg o lifogydd ledled Cymru.
Mae’r strategaeth yn:
Darparu cyfeiriad strategol drwy amcanion a mesurau clir sy’n helpu i leihau risg drwy feithrin ardal ac annog cydweithio.
Canolbwyntio ar gyflawni cynlluniau mwy cynaliadwy drwy atebion sy’n seiliedig ar natur a gwaith cynllunio tir a dŵr cydlynol.
Cydnabod pwysigrwydd cyngor clir ar i Awdurdodau Rheoli Risg (gweler tudalen 58) a chymunedau, ac angen i weithio’n agos gyda grwpiau ar gynlluniau rheoli traethlinau.
Cynlluniau rheoli traethlinau
Mae cynlluniau rheoli traethlinau yn helpu cymunedau i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd o’u blaenau. Mae’n ymwneud â meithrin , felly pan fydd llifogydd yn digwydd, gallwn ddysgu ymateb ac adfer yn gyflym i leihau siawns o effeithiau negyddol hirdymor.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae Awdurdodau Rheoli Risg y mae eu haelodau’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol (sy’n gweithredu fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol) a chwmnïau dŵr sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb mewn rheoli’r arfordir wedyn yn helpu i gyflawni nodau’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu yng Nghymru ar gyfer y Llywodraeth.
Mae Fforwm Grwpiau Arfordir Cymru – sy’n cynnwys grwpiau sydd â diddordeb yn yr arfordir – yna’n creu’r cynlluniau rheoli traethlin (mae pedwar sy’n gwasanaethu Cymru), ac yn goruchwylio eu cynhyrchu a’u hansawdd. Grwpiau sy’n berchen ar gynlluniau rheoli traethlin ac maent wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Yn nalgylch afon Dyfi, rydym yn rhan o Grŵp Arfordir Gorllewin Cymru sy’n cynnwys awdurdodau lleol (Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Benfro), Cyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail a sefydliadau gweithredu morol eraill. Mae’r grŵp yn rheoli’r draethlin rhwng Penrhyn y Santes Ann yn Sir Benfro a’r Gogarth yng Ngogledd Cymru.
I ddysgu mwy am addasu a Chynlluniau Rheoli Traethlinau, gweler Pennod 5.
deuocsid yw glas sy’n cael ei amsugno o’r atmosffer a’i storio ym mhlanhigion, creigiau a gwaddod y cefnfor. Mae storio’r hwn yn helpu i frwydro yn erbyn effeithiau .
Mae planhigion yn tynnu CO₂ o’r awyr trwy ffotosynthesis.
Mae morfeydd heli hefyd yn dal gwaddod cyfoethog o garbon a deunydd organig o’r lanw.
Mae carbon sydd wedi’i dynnu yn cael ei storio mewn planhigion nes iddyn nhw farw.
Mae planhigion marw wedi’u claddu o dan waddod sy’n dadelfennu’n araf.
Mae carbon yn cael ei storio yn y pridd am filoedd o flynyddoedd.
Mae’r ddelwedd yn groestoriad o ecosystem sy’n dangos sut mae yn cael ei ddal a’i storio dros amser. Mae’r rhifau’n cyfateb i’r prosesau canlynol:
deuocsid yn yr atmosffer: Mae deuocsid (CO₂) yn bresennol yn yr atmosffer uwchben y .
Tynnu trwy ffotosynthesis a mewnbwn llanw: Mae planhigion yn tynnu CO₂ o’r awyr trwy ffotosynthesis. Mae morfeydd heli hefyd yn dal gwaddod cyfoethog o garbon a deunydd organig sy’n cael ei gario i mewn gan y llanw.
wedi’i storio mewn planhigion byw: Mae’r sy’n cael ei ddal gan blanhigion yn cael ei storio yn eu dail, eu coesynnau a’u gwreiddiau tra byddant yn fyw.
Claddu deunydd planhigion marw: Pan fydd planhigion yn marw, mae eu gweddillion yn cael eu claddu o dan haenau o waddod. Maent yn dadelfennu’n araf yn yr amodau ocsigen isel o dan yr wyneb.
Storio tymor hir mewn pridd: Dros amser, mae yn cronni ac yn cael ei storio mewn priddoedd am filoedd o flynyddoedd.
Mae storfeydd hirdymor yn systemau naturiol fel cefnforoedd, coedwigoedd a phriddoedd, sy’n cloi am fwy na 100 mlynedd.
Mae Rhanbarth ac Arfordir Cymru – y mae aber Dyfi yn rhan fach ohono – yn cwmpasu ardal o 43,112 km2.
O’r ardal hon, mae 31,177 km2 (72%) wedi’i dynodi’n Ardaloedd Morol Gwarchodedig (sy’n cynnwys , Gwarchodfeydd Natur Morol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac ardaloedd morol Safleoedd o Ddiddordeb Arbennig ac Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).
At ei gilydd, amcangyfrifir bod 15.7 miliwn tunnell o storfeydd hirdymor o garbon organig, gyda 93.7% o’r cyfanswm hwnnw wedi’i storio mewn dim ond y 10 cm uchaf o fwd is- a tywod/mwd gwely’r môr (mae mwd is- yn gynefin gwely’r môr wedi’i wneud o waddod mân sydd bob amser wedi’i orchuddio â dŵr).
Mae hyn yn golygu mai dim ond cyfran fach o’r cyffredinol sydd wedi’i storio yn nhrwch llawn y hyn yw’r amcangyfrif hwn. Fodd bynnag, yr haenau uchaf o waddodion yw’r rhai a adnewyddir yn fwy diweddar a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gael eu haflonyddu gan weithgareddau dynol.
Amcangyfrifir bod 0.94 miliwn tunnell o garbon organig yn cael ei storio yn y 10 cm uchaf o briddoedd mewn morfeydd heli a 0.06 miliwn tunnell mewn gwelyau morwellt.
Mae biomas gwymon byw yn cynnwys tua 204,000 tunnell o garbon organig
Gyda 8,800 tunnell ychwanegol wedi’u cynnwys mewn microalgâu rhynglanwol.
Mae Isaforol ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn cynnwys y gyfran fwyaf o garbon organig ac anorganig (6.4 tunnell fetrig). Ond mae gan Ardaloedd Morol Gwarchodedig , mewnol (sef yr ardaloedd hynny sy’n agos at y tir) yn enwedig y rhai morol llai o Safleoedd o Ddiddordeb Arbennig, y dwyseddau ar gyfraddau uchaf o gronni fesul uned arwynebedd yn eu mwd , morfeydd heli a gwelyau morwellt.
Mae gan Ardaloedd Morol Gwarchodedig gyda chynefinoedd creigiog yn bennaf lai o storfeydd hirdymor a chyfraddau cronni is. Ond maent yn cynnwys gwelyau gwymon helaeth sy’n cyfrannu i ardaloedd cyfagos o waddodion trwy a chludo malurion gwymon.
Mae’r wybodaeth yn y bennod hon wedi’i chymryd o Restr Glas y Deyrnas Unedig: Asesiad o Botensial Storio a Dal a Chadw Morol ym Moroedd y DU (gan gynnwys o fewn Ardaloedd Gwarchodedig Morol). Mae’r adroddiad hwn yn gynnyrch dadansoddiad gwreiddiol a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gwyddor Forol yr Alban (SAMS), Prifysgol St Andrews a’r Gymdeithas Fiolegol Forol (MBA). Fe’i hysgrifennwyd a’i golygu gan yr Athro Dan Laffoley a’r Athro John M Baxter, WWF, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a RSPB.
Dyma’r gwahanol fathau o garbon glas a geir ledled y DU. gwely’r môr yw ystorfa garbon fwyaf y byd, sy’n ymestyn dros 360 miliwn km2 o arwyneb y Ddaear.
Mae’r ddelwedd yn groestoriad o ecosystemau a morol sy’n dangos sut mae yn symud ac yn cael ei storio mewn cynefinoedd glas.
Mae pob rhif yn cyfateb i’r broses ganlynol:
Carbon atmosfferig
Mae gormodedd o garbon deuocsid yn yr atmosffer yn sbarduno
Plancton cefnfor
Mae algâu morol microsgopig ger arwyneb ein moroedd yn dal drwy ffotosynthesis
Môr o ronynnau carbon
Mae algâu, crog, a darnau o wymon a phlanhigion eraill yn bwydo anifeiliaid mwy ac yn ychwanegu at storfeydd glas
Mae carbon yn cyrraedd gwely’r môr
Mae gronynnau o’r môr o garbon yn cael eu a’u claddu ar wely’r môr. Mae creaduriaid marw’r môr yn ychwanegu ato
Coedwigoedd môr-wial
Mae môr-wial a gwymon eraill yn dal drwy ffotosynthesis, ac mae cyfran ohonon yn cael ei allforio a’i gladdu yn rhywle arall
Riffiau biogenig
Mae riffiau biogenig fel gwelyau cregyn gleision, cregyn bylchog a wystrys yn dal ac yn storio yn eu strwythurau
Morwellt
Mae morwellt yn dal drwy ffotosynthesis ac yn ei storio yn y gwaddod islaw
Llifo oddi ar dir
Gall glaw ac afonydd olchi oddi ar dir (e.e. drwy erydu ) ac i’n moroedd ni
Morfa heli
Mae morfeydd heli yn dal drwy ffotosynthesis ac yn storio sy’n cael ei olchi i mewn o’r môr a’r tir
Mae’r diagram yn dangos sut mae yn symud o’r atmosffer i ecosystemau morol ac , lle mae’n cael ei ddal gan blanhigion ac algâu a’i storio’n hirdymor mewn , gwelyau’r môr a strwythurau riff. Gelwir y storio hirdymor hwn mewn cynefinoedd a morol yn garbon glas.
Faint sydd i lawr yna?
Mae’r o fewn y 10 cm uchaf yn unig o waddodion gwely’r môr wedi cael ei amcangyfrif.
Rydym wedi amcangyfrif blaen y mynydd iâ
Mae gwely’r môr yn nyfroedd y DU yn filoedd o fetrau o drwch mewn rhai mannau. Yr haenau uchaf sy’n wynebu’r perygl mwyaf o effeithiau gweithgareddau dynol.
Mae’r graffig wedi’i ailargraffu/addasu o’r Adroddiad Carbon Glas a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, WWF ac RSPB (2024) @danhilliarddesign
Mae’r ddelwedd yn floc toriad tri dimensiwn sy’n darlunio strwythur gwely’r môr o dan ddyfroedd .
Mae’r wyneb uchaf yn dangos y cefnfor gyda chwch bach ar y dŵr a darn o arfordir ar yr ymyl chwith.
O dan wyneb y dŵr, mae’r bloc yn datgelu dau brif haen ddaearegol wedi’u marcio â rhifau:
Creigwely: Mae’r haen greigiog lwyd isaf yn cynrychioli creigwely. Dyma’r sylfaen ddaearegol gadarn sylfaenol o dan waddodion morol.
: Mae’r haen frown drwchus uwchben y creigwely yn cynrychioli gwely’r môr. Mae’r hyn yn ymestyn yn fertigol o wyneb gwely’r môr i lawr a gallant gyrraedd miloedd o fetrau o drwch mewn rhai lleoliadau.
Mae’r yn ymestyn i filoedd o fetrau o drwch mewn mannau
Dim ond yn 10 cm uchaf gwely môr y DU ac Ynys Manaw mae 244 miliwn o dunelli dan glo
Wedi’i dorri i lawr yn storfeydd hirdymor
240 miliwn o dunelli
gwely’r môr
2.4 miliwn o dunelli
Cynefinoedd
139,000 o dunelli
Dolyd morwellt
Stociau tymor byr
1.4 miliwn o dunelli
Coedwigoedd môr-wial
67,000 o dunelli
Gwymon
Bygythiadau i garbon glas
Mae diogelu glas yn hanfodol. Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran cydnabod rôl ecosystemau ar y tir (fel coedwigoedd a mawniroedd) wrth frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy storio , mae glas yn dal i gael ei danbrisio. Ac nid yw’n cael ei warchod i’r un graddau mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig, er gwaethaf ei bwysigrwydd.
Nid yw cynllunio morol yn gweithio’n effeithiol i ddiogelu ein storfeydd glas hirdymor ac nid yw wedi cyfrif am y rôl sylweddol y mae moroedd yn ei chwarae o ran storio .
Mae methu â chydnabod, diogelu a rheoli cynefinoedd glas yn eu gadael yn agored i weithgareddau sy’n gallu aflonyddu arnynt, eu difrodi neu eu dinistrio’n llwyr. Bygythiadau unigol mwyaf ac ehangach i’r storfeydd hyn yw aflonyddwch ffisegol ar wely’r môr a achosir gan weithgareddau dynol ar y môr, fel defnyddio offer pysgota sy’n cael ei lusgo ar hyd gwely’r môr a datblygiadau ar y môr.
Nid yw asesu’r risgiau hyn yn dod o dan gyfreithiau cynllunio morol ar hyn o bryd. Mae ymchwil allweddol a gynhyrchwyd gan Yr Ymddiriedolaethau Natur, World Wildlife Fund a’r RSPB yn argymell lleihau’r gweithgareddau niweidiol hyn i helpu i ddiogelu ein storfeydd morol.
Mae’r graffig wedi’i ailargraffu/addasu o’r Adroddiad Glas a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, WWF ac RSPB (2024) @danhilliarddesign
Mae’r ddelwedd yn groestoriad o’r cefnfor sy’n dangos gweithgareddau alltraeth a’u heffaith ar storfeydd gwely’r môr ac ecosystemau morol. Mae’r olygfa’n cynnwys llongau, tyrbinau gwynt alltraeth, bywyd gwyllt morol a gwely’r môr wedi’u haflonyddu.
Mae pob marciwr rhifedig yn cyfateb i’r canlynol:
Mae gweithgareddau niferus yn bygwth bywyd gwyllt y môr a charbon glas. Nid yw cynllunio morol yn blaenoriaethu budd natur a’r hinsawdd, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw gymhelliant i weithgareddau leihau eu heffeithiau ar gynefinoedd carbon glas.
Mae datblygiadau ar y môr yn arwain at darfu a / neu golli gwaddodion carbon-gyfoethog sydd heb eu mesur hyd yma.
Gall offer pysgota sy’n cael ei lusgo ar hyd gwely’r môr dreiddio drwy wely’r môr, gan darfu ar waddodion llawn carbon ac o bosibl rhyddhau carbon i’r atmosffer, gan waethygu newid hinsawdd.
Nid oes gan lawer o’r MPAs fesurau rheoli digonol ar waith, gan adael y carbon glas sydd ynddynt mewn perygl o ganlyniad i weithgareddau niweidiol.
Mae’r darlun yn dangos plu gwaddod yn codi lle mae gwely’r môr yn cael ei aflonyddu, gan dynnu sylw at y posibilrwydd o ryddhau sydd wedi’i storio o waddodion morol.
Mae prosiectau glas yn ymdrechion i ddiogelu ac adfer cynefinoedd – fel morfeydd heli, mangrofau a gwelyau morwellt – sy’n wych am amsugno a storio deuocsid.
Mae’r prosiectau hyn yn gwneud llawer mwy na dim ond helpu’r amgylchedd. Maen nhw’n edrych ar y darlun mawr, gan fynd i’r afael â’r angen am bolisïau, arian a chyllid cefnogol gan y llywodraeth, a ffyrdd o wella economïau a swyddi lleol. Y nod yw creu amodau cywir er mwyn i ecosystemau hanfodol hyn oresi a ffynnu.
Mae rhai enghreifftiau o brosiectau cymunedol glas sy’n mynd rhagddynt yn y DU:
Nod prosiect ReMeMaRe yn Lloegr yw adfer o leiaf 15% o gynefinoedd ac aberol ar hyd arfordir Lloegr erbyn 2043. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod angen adfer o leiaf 55 km² o forfeydd heli a 6 km² o ddolydd morwellt i gyflawni ei genhadaeth. Mae cyn lleied o riffiau wystrys brodorol ar ôl fel nad oes ffocws ar eu hadfer. Felly, yn hytrach, mae’n hyrwyddo camau adfer mewn cynefinoedd o leoedd ag sy’n ymarferol.
Beth yw glas?
glas yw’r ffordd rydyn ni’n talu am y prosiectau hyn. Mae’n fath arbennig o gyllid sy’n cefnogi’r gwaith o ddiogelu ac adfer ein cynefinoedd sy’n storio .
Mae’r math hwn o gyllid yn unigryw oherwydd mae’n rhaid iddo wneud y canlynol:
Mesur yn ofalus: Mae’n galw am ffyrdd arbennig o olrhain a chyfrif faint o garbon sy’n cael ei storio mewn ardaloedd .
Ymdrin â materion anodd: Mae’n mynd i’r afael â heriau unigryw, fel canfod pwy sy’n berchen ar y tir/môr a chynllunio ar gyfer effeithiau cynyddol yn lefel y môr.
Cyfuno cyllid: Mae’n cyfuno arian o farchnadoedd credyd (lle mae cwmnïau’n talu i wrthbwyso eu hallriadau) â chyllid cadwraeth traddodiadol.
Cynllunio ar gyfer newid: Rhaid iddo ystyried sut y gallai cynefinoedd hyn newid neu symud wrth i arfordiroedd newid dros amser.
Mae llawer o’r gwaith ymchwil a datblygu sy’n ymwneud â chyllido yn dibynnu ar ddatblygu cyllid preifat wrth i fusnesau ddod yn fwy brwdfrydig i wrthbwyso allyriadau CO₂ yn wirfoddol drwy’r farchnad wirfoddol.
Beth mae Cymru’n ei wneud?
Ym moroedd Cymru, mae cyfle enfawr heb ei gyffwrdd i fusnesau, diwydiant ac amaethyddiaeth wneud ymrwymiad i wydnwch a gwella’r amgylchedd. Mae sefydliadau ar y cyd yn ceisio rhoi’r cyfle hwn i Gymru drwy greu Cronfa MARINE Cymru.
Mae’r gronfa’n cael ei datblygu drwy Weithgor Buddsoddiad Glas Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru), gyda chefnogaeth CGGC, rheolwr grantiau profiadol.
Y
Mae nifer o fesydd glas yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, gyda’r yn arwain y ffordd. Mae’r cod yn debyg o weithio mewn ffordd debyg i’r Cod Coetiroedd a’r Cod Mawnirdoedd presennol.
Y nod yw creu a defnyddio fframweithiau i ddilysu, sefydliadau a busnesau adfer a chreu morfeydd heli er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Canllawiau ar gyfer cyllido prosiectau
Mae glas yn cynnig addewid a chyfleoedd gwych, ond mae angen rheolau clir, gwyddoniaeth gadarn a chytundebau cymunedol teg o hyd cyn y gall buddsoddwyr fanteisio’n llawn arno.
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu canllawiau ar gyfer ariannu prosiectau’n gyfrifol gan WWF sy’n defnyddio natur, fel glas, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r canllawiau hyn yn pwysleisio gwarchod a rheoli ardaloedd mawr, rhyng-gysylltiedig – ar dir ac yn y môr.
Mae llawer o’r wybodaeth ar gyfer y bennod hon wedi’i dwyn ynghyd o’r gwaith ymchwil ac eiriolaeth gwych sy’n cael ei gyflawni gan World Wildlife Fund, Ymddiriedolaethau Natur a’r RSPB.
Teithiodd Kirsti a Catrin o’n grŵp cyd-ddylunio o amgylch aber afon Dyfi i wrando ar y bobl y mae’r newidiadau a’r heriau sy’n wynebu ein hardal yn effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw. Mae eu syniadau, eu gobeithion a’u hofnau amrywiol wedi cael eu cofnodi mewn cyfres o gyfweliadau, ac mae ciplun o’r rhain wedi cael ei gyhoeddi yma.
Drwy gasglu’r profiad uniongyrchol hwn, rydyn ni’n yn gobeithio y gallwn wneud dewisiadau mwy ymarferol a gwybodus gyda’n gilydd.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn cydweithio â grŵp o bobl ifanc i greu ffilm fer am aber afon Dyfi. Mae’n gyfle iddyn nhw ddangos beth maen nhw’n ei garu am yr aber, ynghyd â’u gweledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Gallwch wylio eu ffilm – a darllen pob un o’r cyfweliadau hyn yn llawn – ar ein gwefan.
Bydd addasu i’r dyfodol yn golygu cyfuno parodrwydd tymor byr, ymarferol cartrefi a chymuned â chynllunio tymor hir. Bydd angen iddo gofleidio prosesau naturiol mor aml â phosibl, cryfhau nodweddion clustog naturiol a defnyddio amddiffynfeydd adeiliedig yn ddoeth – ond dim ond os yw’n well eu cyfiawnhau.
Nid moethusrwydd yw gwarchod archifau naturiol o newid amgylcheddol a chefnogi cynefinoedd fel morfeydd heli a chorsydd. Maen nhw’n rhan o strategaeth ydym sy’n cyd-fynd â sut mae arfordir Dyfi wedi esblygu erioed.
Yma, rydyn ni’n amlinellu ein hargymhellion i helpu cymunedau yn aber afon Dyfi a’r i gynllunio, paratoi ac addasu ar gyfer yr hyn sydd o’n blaenau.
Camau gweithredu ar gyfer ein cymunedau a’n hunigolion
Isod ceir rhai camau ymarferol ar sail tystiolaeth i leihau risgiau a chynyddu ein yn wyneb newid yn yr hinsawdd a llifogydd sy’n cyflymu.
Rydyn ni wedi seilio’r argymhellion hyn ar ddealltwriaeth o arfordir hynafol y rhanbarth a’i ddylanwad ar lifogydd. Maent yn cyd-fynd â chynllun modern a chynhwysfawr ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd.
Deall i ble mae dŵr eisiau mynd
Mae terasau afonydd, llwybrau afonydd hynafol (a elwir yn balaeosianeli), mawn a yn dweud wrthych ble bydd dŵr yn cronni yn ystod llifogydd.
Mae mapiau hanesyddol lleol, Arolwg Daearegol Prydain a mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwybodaeth gymunedol (pa gaeau sy’n gorlifo a pha mor aml) yn hanfodol. Mae tir sy’n gored â draenau neu uwch hyn yn draenio’n wahanol i dir sy’n gored ar fawn isel neu orlifdir llifwadol.
Mae mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio technoleg a gwyddoniaeth arloesol. Yn gyntaf, defnyddir Lidar (sganio â laser) i greu map manwl iawn o siap ac uchder y tir. Yna, mae modelau hydrology yn amcangyfrif faint o ddŵr sy’n mynd i mewn i afonydd yn ystod glawiad, ac mae modelau hydrolig yn dangos sut mae’r dŵr hwnnw’n symud ar draws yr arfordir a’r gorlifdir.
Er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’r modelau hyn yn cael eu haddasu i gynnwys senarios newid yn yr hinsawdd – fel cynnydd a rhagwelir yn lefel y môr, glaw trymach a stormydd amlach – ar sail Rhagolygon Hinsawdd diweddaraf y DU. Mae’r cyfuniad hwn yn rhoi darlun clir i gymunedau o beryglon llifogydd nawr ac yn y dyfodol.
Cynllunio ar gyfer sawl math o ddyfodol
Dylai cynllunio ar gyfer perygl llifogydd ystyried amrywiaeth o senarios o ran glaw a chynnydd yn lefel y môr. Mae cynllunio swyddogol a mapio gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chynlluniau rheoli perygl llifogydd awdurdodau lleol yn fan cychwyn da i ddeiliaid tai, cynllunwyr a grwpiau cymunedol.
Cymryd camau i ddiogelu eich eiddo a’ch cymuned
Cynlluniau llifogydd cymunedol
Gall grwpiau gweithredu llifogydd lleol, llwybrau gwacáu clir, systemau rhybuddio lleol a lleoliadau llochesi (a drefnir ymlaen llaw) leihau’r risg i fywyd a chyflymu adferiad.
Mae’r Borth ac Ynys-las wedi cyhoeddi cynllun argyfwng cymunedol, sy’n cynnwys gwybodaeth am stormydd, toriadau pŵer, eira yn para am gyfnod hir a thân.
Rhagor o wybodaeth am rybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diogelu eich eiddo
Codi pwyntiau trydanol, gosod byrddau llifogydd neu amddiffynfeydd y gellir eu tynnu ymaith yn y tymor byr.
Os yw’n gost-effeithiol, defnyddio deunyddiau sy’n gwrthsefyll dŵr ar lefel y llawr gwaelod.
Gwneud yn siŵr bod unrhyw yswiriant yn ystyried mapiau llifogydd swyddogol – mae’r rhain ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd y prif gwmnïau yswiriant yn y DU yn ei gynnwys a ddim yn ei gynnwys ar wefan Which?.
Cael help a chefnogaeth, cyn ac ar ôl llifogydd
Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn elusen sy’n helpu, yn cefnogi ac yn cynrychioli pobl sydd mewn perygl o lifogydd.
Maen nhw’n cynnig gwasanaethau adfer llifogydd arbenigol, gwybodaeth a chyngor (gan gynnwys sut i ymdopi ar ôl trychineb llifogydd), hyfforddiant proffesiynol ac yn gweithio gyda chymunedau i’w grymuso i leihau eu risg o lifogydd.
Mae Floodmart.com, canolfan ar-lein yr Unol Daleithiau, yn cynnig cyngor ar lifogydd, gan gynnwys 12 ffordd o wella’n emosiynol ar ôl llifogydd.
Pwy i gysylltu â nhw yn ystod neu ar ôl llifogydd
Os yw eich bywyd mewn perygl
Ffoniwch 999
Gwirio rhybuddion llifogydd byw
Ewch i flood-warning.naturalresources.wales neu ffoniwch Linell Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0345 988 1188 (24 awr y dydd)
Rhoi gwybod am argyfwng nwy
Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999 (24 awr y dydd)
Rhoi gwybod am argyfwng dŵr neu garthffosiaeth
Ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0130 neu 0800 085 3968
Camau gweithredu ar gyfer rheolwyr llifogydd ac arfordiroedd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr
Polisi, cyllid, cynllunio a llywodraethu
Yma, mae cynnal adolygiadau beirniadol, creu partneriaethau, sicrhau cyllid a defnyddio’r offer cynllunio diweddaraf yn allweddol i ddenu cyllid gan y llywodraeth, a lobïo gweinidogion am yr adnodd hanfodol sydd ei angen arnom i gefnogi addasu yn y dyfodol.
Targedu cyfleoedd cyllido aml-fudd
Ceisio cyllid integredig ar gyfer prosiectau sy’n cynnig nifer o fanteision, fel lleihau’r perygl o lifogydd, gwella natur ac adfer mawn.
Defnyddio adnoddau cynllunio i osgoi unrhyw gamgymeriadau
Cryfhau polisïau cynllunio lleol i lywio prosiectau adeiladu newydd i ffwrdd o barthau â thebygolrwydd uchel o lifogydd a mynnu safonau sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd ar gyfer unrhyw ddatblygiad a ganiateir.
Cynnal gwaith monitro ac adolygu
Gwreiddio adolygiadau addasu cyfnodol (er enghraifft, bob pum mlynedd) sy’n diweddaru tybiaethau, yn ymgorffori rhagolygon newydd ac yn addasu llwybrau. Mae ymgorffori prosesau adolygu tryloyw sy’n cael eu harwain gan randdeiliaid yn helpu i feithrin dilysrwydd a hyblygrwydd.
Mabwysiadu cynlluniau rhanbarthol ar sail senarios hyd at 2075 a thu hwnt
Defnyddio Rhagolygon Hinsawdd y DU (UKCP18) a goddefiadau lefel môr rhanbarthol Cymru i werthuso amrywiaeth o ddyfodolau ar gyfer y dyfodol a phroffion straen hyd at 2075 a thu hwnt.
Rhaid i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru gynnwys goddefiadau lefel y môr a chanllawiau rhanbarthol mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd lleol ac unrhyw benderfyniadau i osgoi caniatáu datblygiadau newydd mewn parthau risg uchel.
Dylunio ar gyfer hyblygrwydd ac addasu fesul cam yn hytrach nag atebion sengl, di-droi’n-ôl er mwyn osgoi unrhyw fuddsoddiadau anffodus.
Creu partneriaethau dalgylch
Ehangu a ffurfioli partneriaethau sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Biosffer Dyfi, ffermwyr, cyflenwyr dŵr a grwpiau cymunedol. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu cydlynu rheolaeth naturiol ar lifogydd yn well, modelu a mapio sianeli afonydd a gorlifdiroedd sydd wedi’u halogi, ac atebion strategol ar sail natur.
Blaenoriaethu atebion ar sail natur ac atebion hybrid
Cyn belled ag y bo modd, adfer morfeydd heli, tywyni a mawn fel amddiffynfeydd byw, addasol, a gwneud defnydd dethol o strwythurau adeiliedig os oes angen diogelu asedau hanfodol.
Adfer morfeydd heli a thwyni
Mae caniatáu lle ar gyfer morfeydd heli a thwyni sy’n gwahanu ynni’r tonnau ac yn dal gwaddod i fudo i mewn i’r tir (lle bo hynny’n ymarferol) yn cynyddu hirdymor yr arfordir.
Mae adliniad wedi’i reoli – lle caniateir i dir ddychwelyd yn gynefin – eisoes yn opsiwn sy’n cael ei argymell mewn llawer o aberedd y DU a gall fod yn briodol ar gyfer rhannau o afon Dyfi lle nad yw gwarchodaeth hirdymor yn bosibl. Mae angen rheoli’r dull hwn yn ofalus mewn cydweithrediad agos â thirfeddianwyr lleol y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y tir hwn.
Gwarchod mawn a chorsydd
Mae cynnal Cors Fochno a’r corsydd cyfagos yn cadw mawn i weithredu fel storfa dŵr. Mae hefyd yn lleihau llifogydd ac yn gwarchod natur.
Mae tystiolaeth o’r cofnod mawn hefyd yn dadlau dros ddiogelu’r archifau hyn gan eu bod yn cynnwys cofnodion hir o stormydd yn y gorffennol.
Mae enghraifft o’r gwaith cadwraeth hwn yn digwydd yng Nghwm Elan, lle mae dau brosiect adfer llwyddinnus yn helpu i atal mawn ac adfer 28 hectar o orgors.
Cynnal mesurau naturiol i amddiffyn rhag llifogydd
Gall plannu argaeau sy’n gollwng ac adfer coetiroedd a glannau afonydd arafu llif, cadw a lleihau i lawr afon. Maen nhw’n fwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio ar y cyd ac ar draws lleiniau is-ddalgylchoedd bach yr ucheldir – a phan fydd tirfeddianwyr yn gysylltiedig.
Gwaith ar raddfa
Mae perygl llifogydd afon, cyflenwad gwaddod a halogi yn tarddu i fyny’r afon. Mae mesurau rheoli llifogydd naturiol a defnydd tir ar raddfa yn lleihau , yn dal gwaddod ac yn sicrhau manteision ar y cyd o ran bioamrywiaeth. Gall mesurau fel adfer coetir gan gynnwys pori cynaliadwy ar gyfer da byw helpu i leihau erydu.
Mae tystiolaeth o fentrau lleol, fel rhai ym Mhennal a Thal-y-bont, yn dangos nifer o fanteision lleol pan fydd ffermwyr a chymunedau’n arwain prosiectau.
Fodd bynnag, mae angen lliniairu’r cynlluniau hyn ag amddiffynfeydd eraill mewn dalgylchoedd ac ardaloedd draenio sy’n fwy na 10km², gan nad ydynt yn cynnig amddiffyniad nac yn lleihau difrod i lifogydd mawr, fel y digwyddodd yng Ngheredigion ym mis Mehefin 2012.
Dylunio a chynnal a chadw a seilwaith
Mae’n hanfodol diogelu seilwaith aber afon Dyfi a dylunio atebion peirianyddol sy’n addasol, yn hawdd eu cynnal ac yn ecogyfeillgar.
Cynnal seilwaith hanfodol
Mae rheilffordd Aberystwyth-Machynlleth yn rhedeg drwy ardaloedd isel a dyfrynnau afonydd, sy’n golygu ei bod yn agored iawn i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd lefelau’r môr yn codi a llifogydd dwys amlach yn cynyddu’r risg o dorri’r arglawdd, gorlifo’r cledrau a tharfu ar wasanaethau.
I gymunedau lleol, mae hyn yn golygu llai o ddibynadwyedd ar gyfer cymudo, twristiaeth a mynediad brys – ac o bosibl ynysu pentrefi ac effeithio ar fywoliaeth pobl. Heb fesurau addasu mawr, fel cryfhau argloddiau neu godi rhannau o’r cledrau, gallai’r amhariadau hyn ddigwydd yn amlach yn y dyfodol, gan effeithio ar yr economi ac ar fywyd bob dydd yn nyffryn Dyfi.
Dod o hyd i’r prif ffyrdd a chyfleustodau (fel ffordd yr A487, pontydd neu waith trin dŵr) a fyddai’n achosi crychdonau mawr pe baent yn methu. Defnyddio dyluniadau uwch, ffyrdd uwch a morgloddiau cryfach wedi’u hadeiladu ar gyfer lefelau dŵr yn y dyfodol i’w diogelu.
Osgoi caledu’r arfordir yn gyffredinol (gan ddefnyddio deunyddiau fel craig, concrit neu ddur), sy’n gallu achosi colli cynefinoedd .
Gweithredu safonau dylunio sy’n caniatáu ar gyfer addasu
Dylai dyluniadau peirianyddol ganiatáu ar gyfer strwythurau y gellir eu codi neu eu tynnu oddi wrth ei gilydd yn nes ymlaen (mewn rhannau modiwlaidd gyda draeniau y gellir eu disodli’n hawdd), gan ddefnyddio deunyddiau a siapiau sy’n lleihau gwaith cynnal a chadw ac effaith ecolegol.
Gwarchod a rheoli gwaddodion yn ofalus
Mae sawl ffordd o gadw golwg ar waddodion wedi’u halogi, sianeli afonydd a gorlifdiroedd.
Mapio a monitro gwastraff mwyngloddio halogedig a mwynlif (gweddillion graean mân a gynhyrchir o’r broses falu mewn gweithrediadau mwyngloddio)
Creu rhestr wedi’i blaenoriaethu o hen safleoedd mwyngloddio a gorlifdiroedd a sianeli sydd wedi’u halogi i lawr yr afon.
Sefydlogi neu sicrhau pentyrrau gwastraff mwyngloddio risg uchel (tomenni rwbel) drwy blannu llystyfiant neu adeiladu strwythurau amddiffynnol i atal halogion rhag lledaenu yn y dyfodol.
Cynhyrchu mapiau risg ar gyfer cymunedau a ffermwyr sy’n byw ar orlifdiroedd wedi’u halogi.
Asesu ansawdd cyn i unrhyw waith gael ei wneud
Rhaid i Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer unrhyw brosiect newydd sy’n tarfu ar orlifdiroedd neu fwd llanw asesu crynodiadau a llwybrau metel er mwyn osgoi tarfu ar unrhyw waddod llygredig.
Os nad oes modd osgoi tarfu ar y gwaddod, creu a gweithredu mesurau cyfyngu, adfer neu waredu diogel.
Bydd sefydlogi gwastraff ucheldirol allweddol yn lleihau unrhyw lygredd yn y dyfodol. Mae adnoddau modelu a mapio newydd yn helpu i leoli sianeli afonydd a gorlifdiroedd halogedig, yn ogystal â chynnig arweiniad clir ar sut i’w rheoli.
Systemau monitro, data a rhybuddio
Gwella mesurydd lefel llanw ac afonydd, rhwydweithiau glawiad ucheldirol, a synwyryddion ansawdd dŵr a gwaddod mewn isafonydd allweddol.
Defnyddio modelau rhagfynegi cyfuniad afonydd-llanw i roi rhybuddion cynnar ar gyfer digwyddiadau cyfansawdd (pan fydd sawl sbardun llifogydd yn digwydd ar unwaith, h.y. ymchwydd storm o’r môr yn ystod penllanw a llifogydd afon), sy’n gallu cynyddu effeithiau llifogydd. Gallwch ddysgu rhagor am rybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Creu mapiau data gweledol sy’n hygyrch i’r gymuned a chanllawiau lleol clir. Mae gwybodaeth amser real yn cryfhau ymateb ein cymuned ac yn cefnogi penderfyniadau lleol.
Parodrwydd ar lefel gymunedol a gwydnwch cymdeithasol
Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod cymunedau’n barod ar gyfer newid a’u bod yn cael dweud eu dweud ynghylch sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.
Cynlluniau llifogydd cymunedol ac addasu eiddo
Cryfhau grwpiau gweithredu llifogydd lleol, cynhyrchu cynlluniau gwacáu wedi’u hymarfer, nodi safleoedd lloches cymunedol a llwybrau mynediad â blaenoriaeth, a hyrwyddo mesurau ar lefel eiddo (pwyntiau trydan uwch, rhwystrau symudol, deunyddiau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd). Rhaid i’r broses o wneud penderfyniadau fod yn gyfranogol ac yn dryloyw.
Annog perchnogion tai i gymryd camau i yswirio eu heiddo, gan lobïo am drefniadau yswiriant teg.
Cefnogi pobl a’u bywoliaeth
Er mwyn helpu pobl hynny nad oes modd diogelu eu cartrefi a’u ffermydd mwyach, mae angen dull teg a hirdymor arnom sy’n eu helpu i adleoli yn ogystal â’u digolledu am eu colledion. Mae angen i’r cynllun hwn hefyd benderfynu sut i symud amddiffynfeydd môr yn ôl yn strategol – i gyd mewn ffordd sy’n diogelu cymunedau ac yn cynnal cydlyniant cymdeithasol ac economaidd lleol.
Treftadaeth ddiwylliannol ac archifau naturiol newid amgylcheddol
Mae mawndiroedd, gorlifdiroedd a aberol Dyfi yn storio cofnodion hynafol o newid yn lefel y môr a gweithgarwch dynol yn y gorffennol. Rhaid i unrhyw brosiectau addasu – yn enwedig adliniad wedi’i reoli, carthu neu waith ar orlifdir – gynnwys arolwg archaeolegol a monitro i gofnodi treftadaeth sydd dan fygythiad.
Drwy weithio gyda phrifysgolion, amgueddfeydd a grwpiau treftadaeth, gallwn ddiogelu safleoedd hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys dewis yn ofalus lle i gloddio, diogelu safleoedd eraill lle maent yn sefyll ac addysgu’r cyhoedd i ddangos bod achub y safleoedd hyn yn rhan o’n gwaith cynllunio .
Camau gweithredu ar gyfer y pum mlynedd nesaf
Yn y tymor byr, dyma bump o’r camau gweithredu mwyaf hanfodol y gall rheolwyr llifogydd ac arfordiroedd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr eu defnyddio i gefnogi ein cymunedau:
Diweddaru asesiadau risg lleol
Defnyddio mewnbynnau diweddaraf UKCP18 am lefel y môr a mapio llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Nodi’r ardaloedd hynny sydd yn y perygl mwyaf, gan gynnwys seilwaith, cymunedau a safleoedd sydd wedi’u halogi.
Mapio halogi gan hen fwyngloddiau ar sianeli afonydd a gorlifdiroedd
Blaenoriaethu sefydlogi hen domenni gwastraff (tomenni rwbel) lle maent fwyaf tebygol o erydu. Canolbwyntio hefyd ar greu cynlluniau gweithredu rheoli mewn cymunedau a ffermydd sydd wedi’u lleoli ar orlifdiroedd sydd wedi’u halogi.
Uwchraddio cynlluniau peilot ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol ac adfer mawndiroedd
Adeiladu ar brosiectau Pennal 2050 a Thal-y-bont, gyda metrigau gwerthuso ar gyfer dal , canlyniadau bioamrywiaeth a pha mor fuddiol ydynt i’r systemau dŵr.
Datblygu pecynnau addasiadau cymunedol
Mae’r rhain yn cynnwys taflenni, grantiau eiddo, ymarferion gwacáu adeiladau a chryfhau cyrhaeddiad rhybuddion llifogydd.
Symud amddiffynfeydd môr i mewn i’r tir (adliniad strategol) pan fydd costau’n mynd yn rhy uchel i’w fforddio
Mae hyn yn golygu dod o hyd i safleoedd newydd, penderfynu pwy sy’n berchen ar y tir a threfnu sut i’w digolledu.
Dyma ddwy enghraifft o sut mae cymunedau yn ardal Dyfi yn rhoi cynlluniau ar waith ar hyn o bryd.
Cafodd pentref Tal-y-bont, lle mae Afon Ceulan a Leri yn cyfarfod, ei effeithio’n ddifrifol iawn gan lifogydd ym mis Mehefin 2012. Ar ôl hynny, mae Tal-y-bont wedi dangos ar galluo i addasu i lifogydd ar lefel dŵr drwy ffurfio grŵp llifogydd cymunedol, sef y “Tal ybont Floodees”.
Mae’r grŵp yn darparu cefnogaeth i bobl y mae eu cartrefi wedi dioddef llifogydd (neu sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd). Dechreuodd y Tal-y-bont Floodees hefyd raglen blannu coed fawr yn nalgyldoedd Ceulan a Leri i fyny’r afon o Dal-y-bont i geisio lleihau dŵr ffo a llif afonydd.
Ar ochr ogleddol dyffryn Dyfi, mae Prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol Pennal 2050 sy’n cael ei arwain gan ffermwyr ac sydd wedi ennill gwobrau, yn rhedeg rhaglen uchelgeisiol sy’n rheoli erydu tir a llif araf ar draws dros 7,000 erw. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect hwn ar GOV.UK.
PENNOD DEG:Safbwyntiau clo
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu dros y 18 mis diwethaf, gan ddefnyddio arbenigedd a phrofiad bywyd pobl leol, yn ysbrydoli trigolion o amgylch aber afon Dyfi i weithredu yn wyneb y newidiadau a’r heriau sydd o’u blaenau.
Mae bywyd ar yr arfordir wedi golygu byw gyda newid cyson erioed. Mae hanes ardal Dyfi, o afonydd dŵr tawdd i gorsydd, twyni a sianeli sy’n symud heddiw, yn dangos nad yw arfordiroedd byth yn sefydlog.
Mae rhai newidiadau’n datblygu’n araf, fel y gwelir mewn cofnodion mawn a ; mae eraill yn cyrraedd yn gyflym ac yn ail-siapio bywyd bob dydd. Mae dealltwriaeth wyddonol yn ein helpu i gydnabod pa rannau o’r arfordir sy’n naturiol ddeinamig, sy’n agored i newid, ac sy’n cynnig gwarchodaeth naturiol – cyfuniad o wybodaeth sy’n cryfhau ein gallu i addasu.
Cwrel Rhosliw (Pentapora foliacea)
Drwy rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am dir, cynefinoedd, hanes a chymunedau Dyfi, rydyn ni’n gobeithio y bydd y llawlyfr hwn yn adnodd ymarferol: adnodd sy’n eich galluogi i ofyn cwestiynau gwell, paratoi’n fwy effeithiol a phwyso am y cymorth sydd ei angen arnom i addasu ein systemau ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Mae rhannu gwybodaeth yn rhan o wydnwch.
Mae paratoi ar gyfer y dyfodol yn golygu cyfuno camau ymarferol, tymor byr â chynllunio tymor hwy sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol. Nid yw gwarchod treftadaeth a chynefinoedd yn ddewisol – mae’n rhan o sut mae yn cael ei feithrin. Rydyn ni’n bobl ddifysegra a gwydn, sydd wedi addasu ar hyd y canrifoedd, ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny.
Ond rydyn ni’n wynebu heriau sy’n fwy cymhleth nag erioed. Mae arfordiroedd eraill yng Nghymru a thu hwnt yn wynebu pwysau tebyg, yn enwedig mewn aberedd deinamig neu ddalgylchoedd byr, serth. Gall y llawlyfr hwn fod yn fan cychwyn iddyn nhw hefyd – cyfeirnod a rennir sy’n cynorthwyo sgyrsiau ehangach.
Dyma alwad i weithredu: i gael y wybodaeth ddiweddaraf, i drefnu ac i godi llais dros yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau. Ac nid y llawlyfr hwn yw diwedd y drafodaeth. Mae’n un cam mewn sgwrs barhaus, oherwydd rydyn ni’n byw ar arfordir sy’n newid drwy’r amser. Bydd angen i’n dealltwriaeth, ein gwaith cynllunio a’n hymateb cymunedol addasu gyda’r newid hwnnw.
Fe wnaethom ofyn i ambell aelod o’n grŵp cyd-gynhyrchu a oedd unrhyw beth maen nhw’n ei feddwl neu’n ei wneud yn wahanol o ganlyniad i’w hymwneud â Newid Llanw. Dyma’r hyn a ddywedon nhw:
Mae’r prosiect wedi fy helpu i ddeall llawer o faterion newydd nad oeddwn yn ymwybodol ohonyn nhw o ran addasu arfordirol. Mae wedi bod yn wych gweld beth mae cymunedau eraill yn yr ardal eisoes yn ei wneud i fod yn barod a helpu eu hunain pan fydd rhywbeth yn digwydd. Mae hynny wedi fy ysbrydoli i weld beth y gellir ei wneud yn fy nghymuned i fy hun.
Catrin O’Neill
Ers i mi ymwneud â Newid Llanw, wrth yrru yn Nyffryn Dyfi ac ar hyd ffyrdd yr arfordir, rwy’n cael fy hun yn ystyried uchder y tir uwchben lefel y môr/afon. Ac yna meddwl am yr effaith y bydd cynnydd cymharol fach yn lefelau’r llanw yn ei chael ar yr ardal gyfagos: tir fferm, ar drafnidiaeth (ffyrdd a’r rheilffordd), tai a bywydau pobl.
Ian Hewins
Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.
Lledaenwch y gair:
Manage Consent
To provide the best experiences, we use technologies like cookies to store and/or access device information. Consenting to these technologies will allow us to process data such as browsing behaviour or unique IDs on this site. Not consenting or withdrawing consent, may adversely affect certain features and functions.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.