English

Eluned Besent

Penmaen Isa, Pennal
© Dan Jones Images

Pam ydych chi’n hoffi byw yma?

Mae’n lle braf. Mae gennym ni olygfeydd bendigedig i bob cyfeiriad. Dwi’n gweld Ceredigion, Sir Drefaldwyn a Meirionnydd ac mae’n newid bob dydd, i ddeud y gwir.

Oes gennych chi hoff le yn lleol?

Wel dwi’n licio mynd i’r cae sydd rhyngom ni a’r Ynys. O fan’na rydech chi yn gweld reit draw am Dderwenlas, a ’dech chi’n gallu gweld llawer mwy o’r dyffryn.

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw Newidiadau yn yr ardal dros y Blynyddoedd o ran ?

Dwi ddim yn teimlo bod o’n effeithio llawer arnom ni, a deud y gwir. Y storm waetha’ gawson ni erioed oedd yn 1982 pan oedd y rheilffordd rhwng Gogarth â ‘crossing’ ni fan acw wedi’i thorri, achos bod gwynt cryf tu ôl y llanw. Mi oedd y rheilffordd ar gau am fisoedd achos bod gwely’r rheilffordd wedi torri, wedi tyllu mewn saith lle.

Dydi’r teid ei hun ddim yn uwch mewn gwirionedd. Tydi’r rhan uchaf o’r ddim yn cael ei orchuddio, dim ond ryw lond llaw o weithiau mewn blwyddyn. Roedden nhw’n plannu tatws fanna adeg y rhyfel mae’n debyg – does ‘na ddim lot o wahaniaeth.

Yr effaith gwaethaf ar yr afon yw nad ydi unrhyw lif neu lanw yn mynd allan mor sydyn am nad oes neb yn clirio’r tywod yn yr afon erbyn hyn, fel oedden nhw gwneud tan y saithdegau a’r wythdegau. Roedd peiriant ‘dredger’ yn mynd yn ara’ deg rownd yr aber, ac mae’n siwr eu bod nhw’n clirio’r sianel rhywsut ers canrifoedd. Roedd o’n wneud gwahaniaeth achos erbyn hyn mae’r tywod yn llenwi’r aber cymaint ac felly mae’r dŵr yn cymryd mwy o amser i fynd allan i’r môr.

O ran effaith ar y ffarm – dyden ni ddim mewn gwirionedd yn ffermio llawer o dan y lein. Does gennym ddim defaid erbyn hyn gan ein bod ni’n godro ers ryw ddeuddeg mlynedd, er bod fy nghefnder yn troi defaid i lawr o’r Ynys weithie ac mae’r gwartheg yna pan maen nhw’n sychu (ddim yn godro) dros yr haf.

Ryden ni wedi bod yn gwneud gwaith efo cynefinoedd adar dros y blynyddoedd sy’n beth i’w groesawu – fel addasu ffosydd ar gyfer cornchwiglod bach. Ond mae prosiectau fel hyn yn mynd a dod ac mae angen mwy o amser arnyn nhw. Un aderyn wela i bob dydd ydy’r creyr glas bach gwyn sydd yn ymwelydd newydd iawn â’r aber mewn gwirionedd – weles i ‘rioed un pan yn ifanc.

Oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut y gallwn ni addasu’n lleol?

Mae angen rheoli mwy ar yr afon fel dwi wedi dweud. Mae enghraifft y bont ger Dolguog yn profi bod angen clirio cerrig o’r llednentydd fel y tywod o’r afon Ddyfi. Ond mae llawer o waith addasu yn mynd ‘mlaen ar ffermydd, ac mae prosiect a arweinir gan y ffermwyr lleol yn yr ardal. Mae’r prosiect yn cynnwys datblygu cynlluniau i arafu llif (‘slow-flow’) yn y fforestydd uwchben y pentref, sy’n syniad da iawn dwi’n credu ac angen ei ystyried pan mae’r coed yn cael eu hailblannu – nid mewn rhesi syth ar i lawr i’r dyffryn.

Mae angen ystyried carthffosiaeth yn lleol hefyd – yr un broblem o lif yr afon eto. Mae angen bod yn fwy clyfar efo cadwraeth – ystyried effaith rhai rhywiogaeth fel Gwyddau Canada ar gynefin rhywogaeth eraill

Beth sydd angen newid er mwyn bod yn fwy gwydn?

Mae eisie i bawb ystyried be allen nhw ei wneud. Ryden ni wedi rhoi ‘ground source’ i mewn ein hunain llynedd ac yn gwresogi dan y llawr yn y tŷ. Mae gennym hefyd baneli solar sy’n helpu cynhyrchu trydan i’r godro. Mae’r gŵr yn hoffi deud ei fod wedi godro efo’n trydan ni’n hunain! Mae gennym hefyd dri batri mawr yn cadw’r trydan ac mae’n mynd i lawr i’r grid, fel mae’r felin wynt bach ger y tŷ. Mae isio pawb feddwl am y pethau hynny. Mae ‘na gymaint o gyfleoedd efo siediau ayyb.

Mae angen edrych ar ôl y tir orau allwn ni. Dyden ni ddim yn troi tir ers blynyddoedd. Wedi torri silwair rydem yn rhoi hadau ar y tir ac yn rowlio fo fewn. Dydy o ddim yn torri’r tir o gwbl, ac felly ddim yn rhyddhau .

Pe gallech chi anfon neges at drigolion y dyfodol sy’n byw ac yn gweithio ar yr arfordir, beth fyddai hi?

Mae angen ystyried cadwriaeth y tir – cadw’r afon yn lân a chadw’r dirwedd fel mae hi. Tydi o ddim lles cael ‘monoculture’ ym mhob man. Mae angen yr amrywiaeth cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac i gadw beth sy’n arbennig am ddyffryn Dyfi.

Ond mae angen i bob cenhedlaeth edrych ar ôl be sydd gennyn nhw, ymateb i’r heriau ond gan wneud yn siŵr bod pobl sy’n rheoli yn gwrando ar bobl sydd yn byw ar lan yr afon neu yn y dyffryn bob dydd.

Mae Eluned wedi datblygu llwybr sain hanesyddol ddwyieithog ar gyfer yr ardal ac mae hi’n ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Natur Dyf

Un aderyn wela i bob dydd ydy’r creyr glas bach gwyn sydd yn ymwelydd newydd iawn â’r aber mewn gwirionedd – weles i ‘rioed un pan yn ifanc.

Crehyrod gwyn © iStock

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: