Bronwen Hugil a Flora Fowles
Trigolion Aberdyfi
FLORA: Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberdyfi, fy nwyn i fyny yma ac erioed wedi gadael. Pam fyddech chi, yn byw mewn lle fel Aberdyfi? Fe wnes i briodi dyn lleol, Cyril. Roedd gan ei deulu siop becws yn y pentref, fe wnaethon ni briodi yn Eglwys San Pedr ac yn y dyddiau hynny roedd yr eglwys bob amser yn llawn.
BRONWEN: Fe wnes i ddod yma, gyda fy mrawd pan oeddwn i’n bedair oed. Daeth fy nhad yma fel clerc archebu tocynnau ar gyfer y rheilffordd. Arhosais i, fel Flora, yn y pentref. Roeddwn i’n gweithio fel gweinyddes fwrdd, ac wrth fy modd, yn The Green Café gyda Mrs Reese. Ac yno y gwnes i gyfarfod fy ngŵr, Stan. Roedd yr hyfforddwyr ‘Outward Bound’ yn arfer dod i mewn am eu paned o goffi yn y bore, a dyna ni! Felly fe wnes i ei briodi ym 1953, ac fe gawson ni ein dau fab.
Flora a minnau yw’r ddau berson hynaf yn y pentref erbyn hyn – rydw i’n 93 oed ac mae Flora yn 91.
Ar lifogydd
FLORA: Nawr mae’n rhaid iddo fod, wel, rwy’n meddwl y byddai Winifred tua 17, mae’n debyg pan gafwyd llifogydd ym Mhenhelig, gan Nantiesyn yn ôl yn yr 1950au.
BRONWEN: Ie, ar waelod Nantiesyn.
FLORA: Mae ffynnon fawr yno a gorlifodd honno i’r porthordy. Roedd pedwar bwthyn yn y porthordy a bu Cyril, fy ngŵr, a’m brawd Clifford, yn helpu’r ddynes ifanc, Winifred, a oedd yno gyda’i chydymaith. Yn y dyddiau hynny, roedd ganddyn nhw gydymaith.
FLORA: Ac roedd hi’n ceisio dod drwy’r llifogydd. Ac roedd Cyril a Clifford yn digwydd bod yno, ac felly fe wnaethon nhw ei chario hi drwodd. Rhaid bod y llifogydd wedi para am wythnos, yn yr ardal honno yn unig.

BRONWEN: Rwy’n cofio’r llifogydd yn y sgwâr.
FLORA: O, yn dod i lawr o Stryd Copper Hill?
BRONWEN: Le, a’r môr yn dod i mewn. Lle mae’r siop newydd ‘ma rŵan – drws nesa i’r siop hufen iâ – Isabel’s, ro’n i’n gweithio yno ddiwedd yr 1960au pan oedd hi’n siop esgidiau, ac fe es i i’r gwaith ac ro’n i’n gallu clywed sŵn ‘slish-slosh’ yn y selar. Beth oedd o, ond yr esgidiau i gyd – y bocsys o esgidiau’n arnofio ac yn taro yn erbyn ei gilydd!
BRONWEN: Ond y llifogydd ar y sgwâr, byddai hefyd wedi bod o’r nant fechan yma ar ben Stryd Copperhill wrth ymyl fy nhŷ i. Roedd hefyd yn dod i mewn i’r tŷ. Dim ond ychydig ddyddiau y parodd, diolch byth.
Ie, llanw uchel a’r glaw sy’n achosi llifogydd yn Aberdyfi. Y tro diwethaf y cafwyd llifogydd gyda’r nant fach hon, dim ond rhyw ddwy flynedd yn ôl a daeth i lawr fel afon.
FLORA: Wyddoch chi, dyna’r unig lifogydd gwirioneddol lle nad oedd pobl yn gallu dod drwodd y gallaf eu cofio yn yr holl flynyddoedd hynny. Rydw i yn cofio pan gawson ni aeaf gwael iawn, iawn, oherwydd roeddem yn arfer cael gaeafau gwael bryd hynny, a’r ffordd yn cael ei chau rhwng Aberdyfi a Thywyn.
BRONWEN: O, yr eira oedd hynny.
FLORA: Ie, gyda’r eira. A doedd dim modd i chi gyrraedd Tywyn oni bai eich bod yn cerdded ar hyd y traeth.
BRONWEN: Dyna sut roedd y llaeth yn dod.
FLORA: Ie, fe ddaethon nhw a fo ar hyd y traeth o Dywyn. Yn 1963 neu 1964, roedd eira trwm, trwm iawn, ac fe barodd am gryn amser. BRONWEN: O, ac fe rewodd yr afon.
FLORA: Do!
BRONWEN: Dwi’n cofio aeth Ronald Pugh, fy mrawd a’r bechgyn allan ar yr rhew ar yr afon. Ac rwy’n cofio Jack Pugh yn gweiddi ar Ronald, “Dewch yn ôl yma! Dewch yn ôl yma! Os na ddewch chi’n ôl, fe’ch lladda’ i chi!”
FLORA: Yn 1963 oedd hynny. Gaeaf caled iawn, iawn. Dyna un o’r gaeafau gwaethaf. BRONWEN: Dyna pryd y daeth y plymennau rhew i lawr yr afon.
BRONWEN: Dyna pryd y daeth y plymennau rhew i lawr yr afon.
