Geraint Jenkins
Cerrigcaranau, Talybont
Allwch chi ddweud wrthyn ni am eich fferm?
Mae Cerrigcaranau yn fferm gymysg o wartheg godro, eidion a defaid; aethon ni drosodd i ffermio organig 25 mlynedd yn ôl. Y fuches odro yw’r rhan fwyaf o’n busnes ni, ac rydyn ni’n gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid drwy beiriannau gwerthu, caffis a siopau lleol. Mae’n braf gwerthu cynnyrch lleol i bobl leol.
Beth ydych chi’n ei hoffi am fyw yma?
Dw i’n hoffi’r lle. Dw i’n byw yn yr un tŷ ag y ces i fy ngeni a’m magu ynddo mewn ffordd, ond fyddech chi ddim yn ei newid o. Mae’n ardal Gymreig; mae’n ardal hardd. Does unman yn debyg i gartref, fel maen nhw’n dweud.
Rydych chi wedi dweud o’r blaen nad yw newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnoch chi mewn gwirionedd, ond rydych chi’n wynebu problemau eraill?
Mae’r afon Pwll Du yn cychwyn yn nhop Taliesin, ac yn cymryd dŵr o’r ardaloedd uwch.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i lanhau a chynnal eu rhan nhw o’r afon yma rhwng mis Medi a mis Mawrth bob blwyddyn, ond dydw i ddim wedi eu gweld nhw yno ers tair blynedd erbyn hyn. Felly, pan fydd drws y llanw’n cau i lawr yr afon, mae dŵr yr afon yn cronni ac yn gorlifo ar ein tir. Pan mae’r llanw’n cilio, mae’ r drws yn agor eto, ond mae’n cymryd amser hir i ddraenio allan. Mae’r cenedlaethau o’r blaen wedi gweithio’n galed i wneud y tir yma’n gynhyrchiol, ond nawr mae dan y dŵr. Mae’n cael ei ddinistrio. Dw i wedi talu trethi, wrth gwrs, ond dydych chi’n cael dim byd yn ôl.
Mae ein tir ni’n ffinio â Chors Fochno, a’r broblem fwyaf sydd gennyn ni yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n meddwl bod y gors yn mynd i sychu wrth iddyn nhw lanhau’r afon. Ond dydy hynny ddim byd i wneud ag ecosystem y gors. Mae’r gors yn uwch o lawer. Mae’r afon hon wedi bod yma ers y 1820au/1830au i gludo’r dŵr nant sy’n llifo iddi. Bob tro mae ’na lif, mae’n bryder mawr i rai pobl leol, ond mae’r ateb yn un rhwydd: rhaid inni gynnal y ffosydd a chadw glannau’r afon yn gryf.
Ydyn nhw’n sôn am geisio gwneud rhywbeth gwahanol, felly?
Rhwng Cors Caron a Chors Fochno, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwario £4 miliwn i roi’r byndiau ’ma lawr i ddal dŵr. £4 miliwn! Beth oedden nhw’n ei wneud?! Roedd yn llanast llwyr. Mae’n rhwystredig i’w weld.
Maen nhw’n ceisio helpu natur, maen nhw’n darganfod pethau, yn nodi pethau, ond dydyn nhw ddim yn ei helpu. Mae yna lawer o waith a llawer o arian yn cael ei wario yna. Mae’n cymryd oes, ac mewn 20 mlynedd maen nhw’n edrych yn ôl ac yn gweld nad yw’n helpu ac yn dweud, “Nid ni oedd hwnna – rhywun arall wedi penderfynu hyn”.
Ac os yw’r wyddoniaeth yn gywir, byddwn yn cael mwy o law trwm.
Dw i wedi bod yn dweud hyn yn ddiweddar. Dyna pam ei bod mor bwysig bod yr afonydd yn gallu ei gymryd o. Roedd ffermwr o Henffordd a aeth i’r carchar am newid cwrs yr afon. I bobl leol, mae’r bachgen yna’n arwr! Ond fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru esiampl ohono. Pan ddaeth o allan, roedd pobl yn siarad eto am Ddeddf Draenio Tir 1991, a sut y dylid ei deddfu, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddeddf iddyn nhw’u hunain. ‘Rheoleiddiwr a gwneuthurwr esgusodion!’ Iddyn nhw, dim ond swydd yw e, ond mae’n gartref i fi.

Bob tro mae ’na lif, mae’n bryder mawr i rai pobl leol, ond mae’r ateb yn un rhwydd: rhaid inni gynnal y ffosydd a chadw glannau’r afon yn gryf.
Sut ydych chi’n meddwl y bydd ffermio’n edrych 50 neu 100 mlynedd o nawr?
Dw i wedi gweld y datblygiad mwyaf mewn technoleg. Rydyn ni’n hollol ddibynnol ar bob math o dechnoleg i gadw cofnodion, sut mae’r gwartheg yn perfformio. Mae gan yr holl wartheg goleri arnyn nhw, fel Fitbit. Mae hynny’n mynd i ddatblygu.
Dydy pobl ddim yn gweld cynhyrchu bwyd fel blaenoriaeth. Mae llais y ffermwr yn mynd yn wannach. Pryder mawr gyda ffermio yw ein bod yn cael cymorthdaliadau, ond dylai fod fel rhwyd fwyd. Y llynedd, cwympodd pris llaeth 5c y litr ym mis Tachwedd, a 4c eto ym mis Ionawr. Efo’i gilydd, dydy 9c ddim yn swnio fel llawer, ond os ydych chi’n cynhyrchu 5,000 litr bob dydd, mae hyn yn wahaniaeth mawr i un cwmni. Ac maen nhw’n meddwl ei bod hi’n haws cael bwyd o lefydd eraill. Ond mae’n foesol anghywir cymryd bwyd o wlad arall, oherwydd rydyn ni’n wlad gymharol gyfoethog, ac mae’n llwgu gwledydd tlotach.
Mae newid yn yr hinsawdd yn esgus mor dda i guddio y tu ôl iddo. Ond dydy o ddim yn broblem i bopeth. Dw i’n gwybod fod bywyd gwyllt yn bwysig, ond mae angen inni roi pwyslais ar gynhyrchu bwyd hefyd. Rydyn ni wedi bod yn rhan o’r cynllun Tir Gofal – yn plannu coed, a lle bynnag gallwn ni, wedi bod yn codi ffensys dwbl. Rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i helpu i wneud gwahaniaeth.