Owen Jenkins
Ynysfergi, Morfa Borth
Dywedwch wrthyn ni am eich fferm.
Mae’n fferm eithaf bach. Mae fy nhir yn mynd o groesfan y rheilffordd, draw y tu ôl i Borth, rhwng afon Leri a’r môr. Ffermio defaid ydw i, yn bennaf, ond rhai gwartheg hefyd.
Beth ydych chi’n ei hoffi am fyw yma? Unrhyw hoff leoedd?
Wel, dyma fy nghartref, ynte? Dyma lle ges i fy magu. Dw i’n hoffi byw yma. Traeth Maelgwyn yw fy hoff le, gan ei fod mor wahanol i unrhyw le arall, ac mor dawel. Dyma ganol Cymru, lle mae’r gogledd a’r de’n cwrdd.
Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau yn yr ardal dros y blynyddoedd o ran newid yn yr hinsawdd?
Dydw i ddim yn hen ofnadwy, ond, ydw, dw i’n gweld gwahaniaeth. Dydyn ni byth yn cael eira nawr; dw i’n siŵr bod yr hafau’n wlypach. Pan o’n i’n ifanc, roedden ni’n gwneud gwair. Dw i heb allu gwneud gwair ers blynyddoedd, ar wahân i’r haf eleni. Dw i’n siŵr bod y gwanwyn yn fyrrach nag oedd o pan o’n i’n blentyn.
Un o fy mhroblemau ar hyn o bryd yw pan fydd llif yn yr afon, all y dŵr sy’n dod i lawr ddim mynd i unlle. Mae hwn yn llifo dros y comin ac yn gweithio ei ffordd o gwmpas. Ac wedyn, ar ôl dau neu dri diwrnod, mae llyn mawr yn y caeau pori.
Mae gennych chi lawer o glefydau newydd yn dod i mewn efo’r gwybed – y Tafod Glas, Schmallenberg, a hwn a’r llall. Ac achos bod dim rhew yn y gaeaf, dydy’r gwybed ddim yn cael eu cadw dan reolaeth.
Oes gennych chi syniadau ynghylch sut gallwn ni addasu? Yn enwedig gan ei fod yn swnio fel nad oes llawer o arian ym mhwrs y llywodraeth ar gyfer amddiffynfeydd mawr.
Fydden nhw’n medru, ond dydyn nhw ddim yn dewis gwneud o – mae ’na wahaniaeth, yn does? Gan mlynedd a hanner yn ôl, cafodd yr holl amddiffynfeydd eu hadeiladu â llaw. Allwn ni ddim gwneud dim byd nawr oherwydd yr holl weithdrefnau.
Ydy dŵr y môr yn dod I fyny at eich tir chi, o gwbl?
Nac ydi, nid fy nhir i. Ar dir fy mrawd, mae’n sicr yn dod drwy’r rheilffordd. Dim ond unwaith dw i’n ei gofio fo’n dod reit drosodd yn wirioneddol ddrwg – 1971 falle oedd hi. Roedd ’na storm enfawr, ac fe gollon ni hanner y defaid ar dir fy nhad. Roedd y rheilffordd ar gau am chwe mis, dw i’n meddwl. Roedd yr holl ardal dan ddŵr am sbel. Ond edrychwch chi’n ôl drwy hanes ac roedd hynny’n digwydd 100 mlynedd yn ôl. Dydy o ddim byd newydd.

Sut mae’r dŵr hallt yn effeithio ar eich tir?
Mae’n broblem fwy i fy mrawd, nid i mi. Mae’r dŵr yn dod drwy’r rheilffordd gan ei bod yn eithaf mandyllog. Ac wedyn mae’n mynd i mewn i’r ffosydd, a dyna lle mae’r gwartheg yn yfed. Dyna’r broblem fwyaf. Os oes digon o law, mae’r dŵr yn cadw’n ffres yn y ffos. Yr effaith ar y gwair yw halen o’r awyr, yn cael ei chwythu i mewn. Ond eto, maen nhw’n dweud bod hwn yn gallu bod fel gwrtaith. Ond os bydd dŵr y môr yn dod drosodd ac yn aros am sbel, mae’n stori wahanol.
A oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o’r gorffennol a fyddai’n ein helpu I baratoi ar gyfer y dyfodol?
Yr unig beth wnaethon nhw, a dylen ni wneud hyn hefyd, yw cadw’r ffosydd draenio ar agor. Fe wnaethon nhw’r ymdrech i greu’r ffosydd. Ac felly, drwy gydol y gaeaf, gwaith y gweision oedd cadw’r ffosydd ar agor.
Beth sy’n eich poeni chi fwyaf am ddyfodol yr arfordir hwn?
Does dim byd yn fy mhoeni! Na, na, mae’n rhaid i ni addasu. Mae’n drueni bod gwerth tai yn mynd i gwympo, ac mae fwy neu lai’n amhosibl gwerthu tir yn yr ardal yma nawr. Pe bai’r tir drws nesaf yn dod ar werth, fyddai gen i ddim diddordeb mewn prynu, oherwydd beth yw’r pwynt? Chi’n cael adeiladu tai yn Ynys-las. Ond os oes llifogydd mawr, sut maen nhw’n mynd i gyrraedd yno? Bydd llifogydd ar bob ffordd.
Efallai mai dim ond i bobl sydd eisiau bod yma dros yr haf y bydd yn apelio, yn hytrach na phobl sy’n barod i aros dros y gaeaf. Bydd hynny’n bechod, gan ei bod yn gymuned neis yma. Mae’n weithgar, ac mae’ na agosatrwydd. Dw i’n mynd i’r farchnad bob bore dydd Iau. Mae’n grêt dydy? Pawb efo’i gilydd yn cael paned a sgwrs.
Os ewch chi’n ôl i ddechrau’r Borth, banc graeanog oedd o – darn o dir heb berchnogaeth arno, a neb â hawl drosto. Ac felly roedden nhw’n medru adeiladu tai heb ganiatâd, fwy neu lai. Efallai bod rhywfaint o’r ysbryd yna’n dal yn fyw yma!
Dydyn ni byth yn cael eira nawr; dw i’n siŵr bod yr hafau'n wlypach. Pan o’n i'n ifanc, roedden ni'n gwneud gwair. Dw i heb allu gwneud gwair ers blynyddoedd, ar wahân i'r haf eleni.
