English

Jill Hulse

Sy’n byw yn Ynys-las
© Dan Jones Images

Beth ydych chi’n ei hoffi am fyw yma?

Rydw i’n hoffi teimlo’r tywydd, y traeth sy’n newid drwy’r amser, a’r rhyddid i gael mynediad ar hyd y draethlin. A’r ymdeimlad hwnnw o lesiant sy’n dod yn ei sgil.

Dros y 32 mlynedd rydych chi wedi byw yma, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau?

Rwy’n credu bod digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach. Mae stormydd a dŵr sy’n dod drosodd yn cael llawer mwy o effaith niweidiol. Cafwyd sawl bwlch lle mae’r pren yn yr amddiffynfeydd môr wedi’i dorri a’i olchi i ffwrdd, gan ganiatáu i’r tonnau sgwrio’r cerrig mân allan a datgelu’r gwaith metel a’r concrit ar y gwaelod. Rwy’n meddwl bod y bylchau wedi bod yn llawer mwy difrifol – mae hyd yn oed tyllau bach yn arwyddocaol, oherwydd mae’n gwneud y strwythur cyfan yn agored i niwed. Rwy’n credu hefyd bod erydu ac ailbroffilio’r traeth yn digwydd yn gyflymach nag y bu. Byddwn i’n dweud bod y ar yr aber wedi tyfu’n sylweddol.

Mae hyn yn gadarnhaol iawn gan ei fod yn dda ar gyfer tynnu ychydig o egni’r tonnau a’r gwynt. Nawr chi’n gallu gweld rhannau gwyrdd yn dechrau tyfu tuag at y ganolfan ymwelwyr; mae’n anhygoel. Mae’r gyfradd mae’n cynyddu nawr yn cyflymu llawer mwy nag unrhyw beth rydw i wedi’i weld o’r blaen. 

Oes gennych chi unrhyw syniadau ynghylch sut gallwn ni addasu’n lleol?

Rwy’n credu addasiadau lleol ar raddfa fawr. Yn realistig, rydyn ni eisoes wedi cael y buddsoddiadau cyfalaf mawr, ar wahân i Gam 3 prosiect Amddiffyn Arfordir Borth, a fydd, gobeithio, yn atgyweirio’r morglawdd. Ers talwm, byddai’r Cyngor yn danfon bagiau tywod inni. Ac yna rwy’n cofio’r flwyddyn y dywedon nhw ‘dydyn ni ddim yn danfon oni bai ei fod yn eithafol iawn’. Roedd hynny’n dipyn o sioc i lawer o bobl yn y Borth, ac roedd yn rhoi pwysau mawr ar wydnwch personol. Rwy’n dal i feddwl bod hynny’n beth anodd iawn i lawer o bobl, sy’n teimlo bod y cyfrifoldeb ar eraill i’w diogelu.

Mae’n ddefnyddiol edrych ar yr hyn mae pobl eraill wedi’i wneud. Mae rhai wedi rhoi byrddau storm i mewn, mae gan rai gaeadau ar yr ochr sy’n wynebu’r môr. Mae rhai pobl wedi gosod waliau newydd hardd y pen yma i’r Borth. Gyda wal yn yr ardd ffrynt, gallwch roi cwpl o fyrddau pren ar draws y giât, i helpu i ddal yn ôl y dŵr a allai ddod i mewn. 

Dywedwch wrthyf am y cynllun argyfwng lleol. Rydych chi wedi bod â rhan fawr yn y gwaith o greu’r cynllun, ydw I’n iawn?

Do, bu pwyllgor o ryw fath yn y Borth erioed yn delio â materion yn ymwneud â llifogydd, felly nid hwn oedd y cyntaf o’i fath o bell ffordd. Ond rwy’n meddwl mai dyma’r ymdrech gyntaf i ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn dogfen fwy a’i ffurfioli.

Yn y dyddiau cynnar, roedden ni’n mapio cyfeiriad llif tebygol dŵr a’r ardaloedd agored i niwed, ac yna fe wnaethon ni ehangu’r rhwydwaith o wardeniaid. Ond nid ymatebwyr brys ydyn nhw – nod y rhwydwaith wardeniaid yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod ei bod yn debygol y bydd digwyddiad, sicrhau eu bod wedi’u harfogi, os oes angen symud unrhyw beth arnyn nhw, a oes angen help arnyn nhw a ydyn nhw’n agored i niwed? Felly, mewn gwirionedd, mae’n fath o rwydwaith gwirio, rhwydwaith cyfathrebu.

Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi sôn amdano?

Mae’n fy mhoeni i weithiau fel mae rhywun mewn bywyd yn gweithio, ac, os ydych chi’n prynu tŷ, rydych chi eisiau gorffen talu amdano. Mae gen i ddau o blant ac rwy’n gweld hwnnw’n mynd iddyn nhw ar ryw adeg. Ond beth os bydd trychineb fawr a bod gwerth y tŷ yna’n mynd yn llawer llai?

Ond wedyn rydych chi’n meddwl, nad ydych chi eisiau symud oherwydd bod ansawdd bywyd yn llawer uwch nag yn unrhyw le arall. Mae bron fel derbyn y gallai pris y tŷ ostwng yn sylweddol, ond mae’n werth chweil oherwydd y gwerth rydych chi’n ei gael bob dydd drwy fyw yma?

Felly, strategaethau – beth ydych chi’n mynd i’w wneud i warchod eich hun? Beth ydych chi’n barod i’w dderbyn? A sylweddoli bod rhai o’r pethau hyn yn bethau anhysbys ac na allwch eu newid. Pam fyddwn i’n symud cyn pryd i rywle lle na fyddwn i mor hapus, oherwydd ‘beth os’? Pa newidiadau allwch chi eu gwneud gyda’ch gilydd i’ch helpu i fod yn fwy gwydn er mwyn i chi allu aros lle rydych chi a dod dros bethau’n gyflym?

Nawr chi'n gallu gweld rhannau gwyrdd yn dechrau tyfu tuag at y ganolfan ymwelwyr; mae'n anhygoel. Mae'r gyfradd mae'n cynyddu nawr yn cyflymu llawer mwy nag unrhyw beth rydw i wedi'i weld o'r blaen.

© Jill Hulse

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: