English

Caroline Stockford

Bardd, cyfieithydd, awdur ac actifydd hawliau dynol, sy'n byw yn y Borth
© Dan Jones Images

Beth ydych chi’n ei hoffi am fyw yma?

Rydw i wrth fy modd yn gallu edrych allan ar fae Ceredigion wrth i mi weithio a cherdded fy milgi bach ar y traeth a thros y gors, Cors Fochno. Rydw i wrth fy modd gyda’r ffordd mae’r môr yn newid bob dydd a phob awr – mae’n well na theledu.

Oes gennych chi hoff le?

Rydw i wrth fy modd â’r goedwig betraidd ar draeth Borth ac roeddwn i’n ddigon ffodus i ddod o hyd i ddarn o asgwrn gên baedd ar y traeth a allai fod yn 6,000 o flynyddoedd oed. 

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau yn yr ardal dros y blynyddoedd o ran newid yn yr hinsawdd neu fioamrywiaeth?

Rwy’n ddigon hen i gofio’r hafau yn yr 1970au a’r 1980au yn y Bermo, lle cefais fy magu. Roedd yn ymddangos bod tymhorau wedi’u diffinio’n gliriach bryd hynny. Mae’r morglawdd yn y Bermo, sy’n cyflymu dinistr Fairbourne, yn drist iawn. Bydd y dref fach honno’n diflannu’n fuan ac mae gen i atgofion hapus iawn o fy mhlentyndod yn cludo teithwyr draw i Fairbourne gyda fy nhad yn ein cwch. Rwy’n hiraethu am yr hen ddyddiau, y cymeriadau ymysg y pysgotwyr lleol, hen fechgyn y bad achub a busnes siandler fy nhad ar y cei. Fe wnaethom dyfu i fyny gyda gwylan anwes ac alarch a wrthododd adael y llithrfa. 

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer atebion lleol?

Rwy’n credu y dylid cael cynllun hinsawdd ar gyfer pob tref lle gall ysgolion, clybiau, pobl leol a thwristiaid i gyd gymryd rhan i fonitro bywyd gwyllt, coed, gwymon a bywyd môr. Rwy’n credu y dylid cael un prosiect lleol mawr y flwyddyn ar gyfer pob tref lle mae gwirfoddolwyr lleol yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol i fonitro newid yn yr hinsawdd a dechrau deialog. 

Rwy’n falch o rannu’r lle hardd hwn lle rydym yn byw gyda thwristiaid, ond maen nhw yn ymwelwyr tymhorol hefyd, yn union fel heidiau o adar. Rwy’n credu y dylid mesur twristiaeth wrth ystyried newid yn yr hinsawdd. Mae’n ymddangos fel pe bai ffyniant yn yr haf a thlodi yn y gaeaf. Hoffwn weld mwy o fusnesau’n darparu teithiau afon, teithiau tywys a sbotio morloi. 

Nid yw pobl yn hoffi ystyried y posibilrwydd dychrynllyd y bydd llifogydd parhaol ar dir, felly rhaid inni ddechrau sgyrsiau bach am yr hyn y gallem ei wneud. Pryd y gallai fod yn bryd dechrau adeiladu ar dir uwch neu a ddylem ddychmygu y byddwn yn colli trefi cyfan? Mae’n frawychus pan fyddwch chi’n dechrau meddwl amdano.  

Beth sydd angen I ni ei wneud er mwyn bod yn fwy gwydn?

Cydlyniant cymunedol a theimlad nad ydym yn anwybyddu’r broblem hon. Roedd y digwyddiad stormydd yn Star of the Sea, yn y Borth ym mis Hydref 2025 yn noson galonogol iawn o undod ac adrodd straeon lleol. Daethom i gyd i ffwrdd yn teimlo’n gysylltiedig ac yn cael ein cryfhau gan y ffaith bod pobl ar yr arfordir hwn wedi bod yn byw gyda newid yn yr hinsawdd a gyda stormydd ers cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. 

Hefyd, gallem gynnal ymarfer, efallai unwaith y flwyddyn, o beth i’w wneud os bydd llifogydd mawr neu berygl i fywyd yn sgil stormydd. Fe allem gael mwy o sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddifyr a chreadigol, yng ngharnifal Borth efallai? 

Sut ydych chi’n meddwl mae ein cymuned yn paratoi ar gyfer cynnydd yn lefel y môr neu beryglon ?

Mae’n ymddangos bod yr amddiffynfeydd môr yn y Borth wir yn gweithio. Mae’r cerrig mawr yn achosi i’r tonnau dorri ac i lawer o’u pŵer gael ei ledaenu. Rwy’n eu gwylio bob dydd. Mae’n fraint byw mor agos at y llanw pwerus yma.  Ar wahân i ddigwyddiad stormydd y Borth a’r amddiffynfeydd môr, doeddwn i ddim yn teimlo bod unrhyw un yn siarad am gynnydd yn lefel y môr na pheryglon nes i mi glywed am brosiect Tir Canol. Yn fyr, dydw i ddim yn meddwl bod ein cymuned yn paratoi o gwbl. Dim ond byw drwyddynt ydyn ni ac yn sylwi eu bod yn digwydd yn amlach.

© Adobe Stock

Yn eich barn chi, sut fydd hi ymhen 50 neu 100 mlynedd, a sut gallwn ni gynllunio ar gyfer hynny?

Rwy’n credu y bydd canolfannau preswyl mwy yn y mewndir, gan ymestyn i fyny’r dyffrynnoedd. Os na chaiff y cyswllt rheilffordd rhwng y gogledd a’r de ei adfer, credaf y dylem ystyried rhwydwaith trafnidiaeth dros y môr, a fyddai, yn fy marn i, yn tarfu llai ar fywyd gwyllt a’r ecosystem na ffyrdd mwy. 

Ers y cyfyngiadau symud cysylltiedig â COVID, rydyn ni eisoes wedi gweld llawer mwy o ymwelwyr yn crwydro’r ardal ac os bydd y tymheredd yn codi, mae’n ddigon posibl y byddwn yn gweld datblygiadau enfawr ar hyd yr arfordir, fel sydd wedi digwydd yn Sbaen a Thwrci. Felly, mae’n debyg bod angen i ni liniaru hynny nawr!

Mae'r dychymyg gennym i ddatrys y problemau hyn. Y cyfan sydd ei angen arnom yw ewyllys y boblogaeth i wneud rhywbeth cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: