English

Charlie Bartlett

Perchennog Mikatcha, cwch i’w logi, yn gweithredu allan o Aberdyfi
© Dan Jones Images

Chi yw’r unig gwch I’w logi allan o aberdyfi?

Fi yw’r un olaf yma. Mae un yn y Bermo ac un ym Mhwllheli. Rwy’n 73 oed, ac mae’r rhan fwyaf o’r bechgyn rwy’n eu hadnabod sy’n dal i wneud hyn i gyd yn yr un grŵp oedran, felly rydyn ni i gyd yn cyrraedd y cam hwnnw. Cynigiais drosglwyddo’r busnes i fy ŵyr, Tom, a dywedodd, “Na. Achos dydw i ddim yn gwybod beth mae’r tywydd yn mynd i’w wneud”.

Ac rydw i hyd yn oed wedi sylwi ar hynny erbyn hyn. Yr oeddwn yn amheus iawn o newid yn yr hinsawdd, ond rwy’n gweld pethau nawr. Mae’n bendant yma.

Felly rydych chi wedi sylwi ar newidiadau ym mhatrymau’r tywydd?

Do, rydw i’n canfod eithafion. Nawr rydych chi’n cael tri, pedwar, efallai pump diwrnod o dywydd gweddol dda ac yna rydych chi’n cael chwech neu saith diwrnod o dywydd eithafol lle nad oes modd i neb fynd allan. Mae fy nyddiadur yn llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond nid yw’n dda i ddim os oes rhaid i chi ddal ati i ffonio pobl i ddweud na allwn ni fynd allan.

Ydych chi’n gweld newidiadau yn y mathau o bysgod rydych chi’n eu dal?

Rydyn ni’n gweld pethau yn ein dyfroedd nad ydyn ni erioed wedi’u gweld o’r blaen. Rwy’n aelod o SIARC (Sharks Inspiring Action and Research). Rydyn ni’n monitro’r maelgwn; maen nhw’n rhywogaeth warchodedig. Dywedodd SIARC bod maelgwn yn brin iawn ac wrth gwrs fe wnes i ddweud, “Ydyn nhw? Achos dwi wedi bod yn gweld llawer ohonyn nhw. Alla i fynd i ddal un i chi gael ei weld os ydych chi eisiau!”

Felly o fewn 10 munud fe gawson ni un. Roedden nhw mor falch o’i weld ac fe gymeron nhw samplau DNA. Mae’n fy rhyfeddu i eu bod nhw’n gallu cymryd sampl dŵr nawr sy’n gallu dweud wrthych chi a oes maelgwn allan yna ai peidio. Roedden ni hefyd yn arfer dal llawer o forgathod dreiniog yma. Ond daeth pysgota masnachol heibio a’u dileu. Byddai morgathod dreiniog yn arfer cadw niferoedd y crancod heglog i lawr drwy fwyta’r crancod llai.

Ond gyda llai o forgathod dreiniog o gwmpas, dyw’r crancod ddim yn cael eu rheoli mwyach. Felly pan fydd morgath ddreiniog yn dod i mewn i ddodwy pwrs morwyn, mae llawer o grancod heglog yn ymgasglu, yn ei rwygo ar agor, ac yn bwyta’r hyn sydd y tu mewn. Mae anghydbwysedd nawr. Dydyn nhw erioed wedi cael eu hadfer. Y drafferth yw, dwi wastad wedi dweud, dim ond am heddiw mae pysgotwyr masnachol yn pysgota. 

Rydyn ni hefyd wedi dechrau tagio cŵn glas, siarcod bach tua phedair i chwe troedfedd o hyd, ac rydyn ni wedi cael llawer o lwyddiant. Rydw i wedi dal ambell fingrwn coch o bryd i’w gilydd, ond rydw i wedi bod yn helpu SIARC i roi camerâu i lawr ar wely’r môr ac roedd y nifer o fingrynion cochion a oedd yn nofio heibio’r camerâu – allwn i ddim credu’r peth!

Ac ydych chi’n gweld patrymau gwahanol yn y rhywogaethau rydych chi’n eu dal ar wahanol adegau o’r flwyddyn nawr?

Ydw. Mae pethau’n mynd yn gynt. Mae gennym ni rywogaeth sydd wedi silio yma, merfog du. Cyrhaeddodd y merfogiaid yn llythrennol ddwy neu dair wythnos yn gynharach eleni oherwydd y gwres ac maen nhw wedi mynd bythefnos ynghynt.

Hyd at y pum mlynedd diwethaf, roedden ni’n arfer cael mecryll gydol y tymor. Wel, nawr, rydyn ni’n gweld unwaith i ni gyrraedd mis Mai, rydyn ni’n cael trafferth. Ac yna’n sydyn iawn, tua diwedd Medi/Hydref, mae’r bae yn llawn ohonyn nhw eto, yn llawn dop. Mae gen i deimlad bod y dŵr yn mynd yn rhy gynnes yn y bae. Rydyn ni’n sôn am 20, 21oC yn anterth yr haf. Ar ôl i mi fynd allan 30 milltir ar y môr, mae’n dechrau gostwng.

Sut ydych chi’n teimlo wrth edrych ymlaen 50 neu 100 mlynedd I’r dyfodol?

Rydw i wastad wedi dweud o’r cychwyn cyntaf, dw i wedi cael yr amser gorau, dim ond ei fenthyca ydw i. Yr oeddwn yn amheus iawn am newid yn yr hinsawdd. Nawr rydw i wedi sylweddoli’n sydyn, ydy, mae’r patrymau tywydd hyn yn newid ar raddfa fawr. A dyma lle rydw i’n cael bechgyn ar y cwch yn dweud ‘Newid yn yr hinsawdd’? Hinsawdd Prydain yw hyn – mae wastad wedi bod yn anwadal”.

Ac rwy’n meddwl, ydy, mae’n anwadal, ond nid i’r eithafion rydyn ni wedi’u gweld yn ddiweddar. Neu mae pobl yn dweud wrtha i, “Charlie, ti’n swnio fel amgylcheddwr”. Rydw i’n dweud, “Ddim yn llwyr”. Ond os byddwn ni’n parhau fel rydyn ni ar hyn o bryd, mae’n gas gen i feddwl sut bydd pethau, fydd gennym ni ddim byd ar ôl. Synnwyr cyffredin yw llawer ohono, ynte? Mae’n rhaid i ni feddwl am y canlyniadau

Mae wedi bod yn fraint i mi allu gwneud beth dw i’n wneud.

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: