Chapter 2(CY)(Preview)
Mae aber afon Dyfi a’r (yr ardal o dir lle mae’r holl law a’r nentydd yn llifo i’r un afon yn y pen draw), ar arfordir gogledd Bae Ceredigion yng Nghanolbarth Cymru.

Mae’r arfordir modern rydyn ni’n ei adnabod ac yn ei garu heddiw – y gwastadeddau llanw, y tafodau a’r twyni yn Ynyslas, rhuban y gorlifdir rhwng Machynlleth a’r arfordir, y morfeydd heli isel, a Chors Fochno – yn deillio o newidiadau dramatig sydd wedi digwydd dros y 11,700 mlynedd diwethaf.
Roedd yr un prosesau hirdymor hyn (newidiadau yn lefel y môr, twf mawn, erydu a gwaddodi afonydd ac arfordiroedd) hefyd yn golygu bod yr ardal yn agored i lifogydd heddiw. Maen nhw’n penderfynu pa opsiynau ar gyfer lleihau’r risg o lifogydd sy’n addas i’n cymuned, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r map yn dangos aber Afon Dyfi ar arfordir gorllewinol Cymru, yn agor i Fôr Iwerddon i’r gorllewin.
Mae’r lleoliadau canlynol wedi’u labelu:
Tywyn (gogledd), Aberdyfi yng ngheg yr aber, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Ynyslas, Morfa Borth, Taliesin, Tre’r-ddôl, Llangynfelyn, Tal-y-bont, Eglwys Fach a RSPB Ynys-hir.
Mae codau lliw i gynefinoedd fel a ganlyn:
- Twyni tywod – wedi’i ddangos mewn melyn yn Ynyslas, i’r de o geg yr aber
- Cors (cors mawn) – wedi’i ddangos mewn brown tywyll mewndirol ger Morfa Borth
- – wedi’i ddangos mewn gwyrdd golau ar hyd ymyl deheuol yr aber
- Banciau tywod – wedi’u dangos mewn glas ym masn yr aber
Mae’r aber yn cynnwys sianeli llanw canghennog wedi’u hamgylchynu gan fanciau tywod .
Yn ôl i’r dechrau
Yn ystod y cyfnod Hwyr, tua 27,500 i 23,300 o flynyddoedd yn ôl, cafodd tirwedd canolbarth Cymru ei siapio gan ddau beth:
Rhewlifoedd a oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf o Gymru a Môr Iwerddon Dŵr tawdd a lefel y môr yn codi a ryddhawyd gan rewlifoedd a llenni iâ wrth i'r hinsawdd gynhesu
Yn nalgylch Dyfi, cafodd haenau trwchus o dywod a graean o rewlifoedd ac iâ’n toddi eu ar loriau dyffrynnoedd. Ffurfiwyd cyfres o ysgafellau gwastad uwch (neu derasau afon) sydd bellach yn gorwedd hyd at 25 metr uwchben y gorlifdir modern.
Daeth y dyddodion hyn yn sylfaen i afonydd y cyfnod naddu eu sianeli a’u gorlifdiroedd drwyddynt.
Mae llwybrau afonydd hynafol sydd wedi’u cadw ar wyneb y terasau hyn yn dangos bod afon Dyfi a’r afonydd cyfagos wedi addasu eu cyrsiau dro ar ôl tro wrth i’r llif o ddŵr tawdd, y cyflenwad o waddodion a lefel y sylfaen amrywio.
Y cyfnod cynnar i ganolig: Lefel y môr yn codi ac aber yn ffurfio
Wrth i haenau iâ ac, yn ddiweddarach, y dyffryn gilio o arfordir Cymru, bu cynnyd cyflym yn lefel y môr yn fydeang yn ystod y cyfnod cynnar (11,700 i 8,200 o flynyddoedd yn ôl).
Llifodd y môr yn gynyddol i mewn i ddyffryn Dyfi sydd bellach dan ddŵr. Erbyn canol yr (8,200 i 4,200 o flynyddoedd yn ôl), roedd wedi newid o fod yn afon (afonol) i aber (dŵr heli/croyw). Yna, newidiodd yn wastadedd llanw a (neu wlypdiroedd ).
Caeodd y tafod graean yn Borth– Ynys-las geg yr aber yn rhannol gan helpu i greu’r amodau ar gyfer datblygiad Cors Fochno, y gyforgors sydd yn union gerllaw ar y tir.
Sefydlwyd ein harfordir modern yn fras tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ond mae twf morfeydd heli, mudo tafodau a symud twyni tywod yn dal i ddigwydd.
Mae’r ddelwedd yn fap steiliedig sy’n dangos newidiadau mewn tir uwchben lefel y môr dros amser.
Mae’r allwedd yn nodi’r canlynol:
- Mae gwyrdd tywyll yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 16,000 CC
- Mae gwyrdd canol yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 8,000 CC
- Mae gwyrdd golau yn cynrychioli tir uwchben lefel y môr yn 7,000 CC
- Mae oren yn cynrychioli arwynebedd tir heddiw
- Mae llinellau glas tywyll yn cynrychioli afonydd
Mae’r map yn dangos bod arwynebedd y tir yn sylweddol fwy yn 16,000 CC, gan ymestyn ymhellach i’r gorllewin. Erbyn 8,000 CC a 7,000 CC roedd maint y tir wedi lleihau wrth i lefelau’r môr godi. Mae’r arfordir presennol, a ddangosir mewn oren, yn cynrychioli’r darn lleiaf o dir o’i gymharu â chyfnodau cynharach.
Dangosir nifer o afonydd yn llifo ar draws y tir, rhai yn ymestyn y tu hwnt i’r arfordir presennol, gan nodi systemau afonydd a fodolai cyn i lefelau’r môr godi.
Mae’r ddelwedd yn dangos y gostyngiad graddol mewn arwynebedd tir dros amser oherwydd lefelau’r môr yn codi.

Cors Fochno: Archif archaeolegol
Mae Cors Fochno yn fawnog 650 hectar sy’n cael ei bwydo gan law. Mae’n un o’r cyforgorsydd sydd yn y cyflwr gorau ym Mhrydain ac yn cynnwys cofnod eglur iawn o’r cyfnod .
Mae’r gors yn cynnwys mwsogl mawn, gyda’i chromen ganolog yn cyrraedd trwch o 5 metr. Dechreuodd ffurfio ar ben gwely coedwig gynharach o gyfnod yr canol a datblygodd yn gors a oedd yn cael ei bwydo gan law rhwng oddeutu 4,700 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae strwythur haenog y gors yn cofnodi newidiadau yn y gorffennol o ran a chlirio coetiroedd, yn ogystal â pha bryd y ddigwyddodd stormydd.
Mae’r cofnod hwn wedi cael ei ddefnyddio’n ddiweddar i olrhain pa mor ddwys ac aml y cafwyd stormydd ym Mae Ceredigion dros y 4,500 mlynedd diwethaf.
Mae’r gors nid yn unig yn cofnodi newid amgylcheddol, ond mae ei mawn a’i system ddraenio yn helpu i reoli llifogydd lleol drwy storio dŵr a lleihau effeithiau ymchwyddiadau storm.
Mae gan Gors Fochno gofnod archaeolegol cyfoethog hefyd. Mae’r prif ddarganfyddiadau’n cynnwys gwrthrych pren o’r Oes Efydd, tystiolaeth o weithgareddau diwydiannol a mwyndoddi metel o’r Oes Haearn/Rhufeinig, a llwybr canoloesol.

Amgáu cors ac adeiladu rheilffordd
Cors Fochno
Un o’r ymyriadau mwyaf arwyddocaol oedd amg.u Cors Fochno rhwng 1813 ac 1847. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys dargyfeirio Afon Leri yn uniongyrchol i aber afon Dyfi ac adeiladu arglawdd ar hyd ei hymyl deheuol.
Roedd yr arglawdd yn lleihau’r arwynebedd a oedd ar gael i storio dŵr o dan y dŵr penllanw cymedrig (lefel uchaf gyfartalog y mae’r llanw mawr yn ei chyrraedd) gan 35 y cant.

Rheilffordd Arfordir Cymru
Roedd gan Reilffordd Arfordir Cymru, a adeiladwyd ar ddechrau’r 1860au, draciau wedi’u codi a oedd yn creu rhwystr a oedd yn gwahanu llawer o orlifdir afon Dyfi oddi wrth ei phrif sianel – yn enwedig yn y rhan o’r afon a’r aber dan ddylanwad y llanw.

Beth ddigwyddodd o ganlyniad?
Newidiodd y cynlluniau hyn forffoleg a deinameg aber afon Dyfi a rhannau isaf yr afon yn sylweddol drwy:
- leihau faint o ddŵr a a oedd yn cael eu storio
- atal gwaddodi y tu ôl i argloddiau
- danfon mwy o waddodion o Afon Leri, bellach wedi’i dargyfeirio i aber afon Dyfi
- sianelu’r gorlanw ymhellach i fyny’r aber.
Un o ganlyniadau amlycaf yr ymyriad hwn yw un y gallwch ei weld hyd heddiw – mae’r tir y tu ôl i’r hen argloddiau a adeiladwyd rhwng Pennal a Gogarth 1 metr yn is na’r tir y tu allan iddynt, oherwydd nad oes unrhyw haenau newydd o waddodion wedi’u ar ei wyneb ers tua 200 mlynedd.
Mae’r gyfradd y mae aber afon Dyfi yn cronni yn is nag ar unrhyw adeg yn ystod y 1,000 o flynyddoedd diwethaf (gweler ffigurau 1 a 2). Mae’r rhain yn adlewyrchu’r cynnydd mewn coetiroedd, gostyngiad sydyn mewn ffermio ac, yn bwysicaf oll, cau mwyngloddiau metel a oedd yn cynhyrchu gwastraff yn y , sydd i gyd wedi lleihau’r cyflenwad o waddodion i’r aber.
Mae’r newidiadau hyn wedi gwella bioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau’r ardal yn sylweddol. Ond gallai’r gostyngiad yn y cyflenwad o waddodion, yn y tymor hir, olygu bod rhan isaf afon Dyfi yn dechrau erydu ei gwely ei hun. Er y gallai hyn leihau llifogydd yn lleol, gall hefyd olygu bod llai o waddod yn cael ei ddanfon i’r arfordir i ailgyflenwi’r traethau, sy’n diogelu’r tir rhag y môr.
Cloddio am fetel
Mae cloddio am fetel yn hanesyddol wedi cael effaith fawr ar gyflenwad , ansawdd a chyfraddau gwaddodi Dyfi – yn enwedig yn y rhan o Afon Dyfi sydd dan ddylanwad y llanw.
Mae Dyfi, fel llawer o Ganolbarth Cymru, yn cynnwys nifer o wythiennau mwynol (corff penodol, tebyg i ddalennau o fwynau crisialog mewn craig). Cafodd y gwythiennau hyn, yn llawn plwm, sinc, copr ac arian, eu gweithio o bryd i’w gilydd o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cyrhaeddodd mwyngloddio ei anterth yn ystod y 18fed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan echdynnwyd llawer iawn o fwynau a phan aeth y gwastraff dilynol i mewn i rwydwaith yr afon. Arweiniodd hyn at halogi eang sy’n dal i lygru Afon Dyfi a llawer o’i hisafonydd heddiw – sy’n cael ei waethygu gan lifogydd amlach a mwy difrifol.

Cadw halogyddion draw
Mae mwyngloddio hanesyddol yn gosod sawl cyfyngiad ar reoli llifogydd ac arfordiroedd. Gall ail-weithio gorlifdir neu brosiectau peirianyddol sy’n newid cwrs yr afon darfu ar waddodion sydd wedi’u halogi, gyda pherygl o ryddhau metelau i’r amgylchedd. A gall hyn niweidio ecosystem aber afon Dyfi ac o bosibl fynd i mewn i gadwyni bwyd.
Dyma ffyrdd o helpu i atal hyn:
- Cyn gwneud unrhyw waith mawr, rhaid cynnal asesiad amgylcheddol i werthuso lefelau’r halogyddion.
- Gall sefydlogi neu lanhau deunydd gwastraff presennol leihau llif metelau trwm a gludir gan waddodion.
- Gall cynlluniau rheoli llifogydd naturiol sy’n cynyddu gorchudd llystyfiant lleol a dŵr ffo araf leihau cyfnodau brig llifogydd (anterth llifogydd). Gallant hefyd ddal halogyddion cyn iddynt gyrraedd prif afonydd.
Amddiffyn pobl, eiddo a natur
O’r cyfnod canoloesol hyd heddiw, mae amrywiaeth o fesurau wedi cael eu cymryd i leihau llifogydd, ac i amddiffyn pobl, eiddo a natur yn nalgylch Dyfi – yn enwedig yn aber afon Dyfi ac yn y rhan o’r afon sydd dan ddylanwad y llanw i fyny i Fachynlleth.
Adeiladwyd argloddiau a draeniau tir ar ddwy ochr yr afon rhwng Pennal a Gogarth i amddiffyn y tir rhag llifogydd, a hefyd o amgylch ymylon Cors Fochno.

Un o’r mesurau mwyaf fu’r bont newydd dros Afon Dyfi, ger Machynlleth. Cafodd ei hagor ym mis Chwefror 2024, ar gost o £46m, a’i hadeiladu i wella cefnffordd yr A487 a darparu llwybr mwy cydnerth, yn enwedig yn ystod llifogydd.
Gall yr holl strwythurau hyn ddiogelu seilwaith yn lleol. Ond gallant hefyd newid lle mae dŵr yn llifo yn ystod llif uchel yn yr afon ac ymchwyddiadau storm – weithiau’n cronni’r risg i lawr yr afon neu mewn mannau lle mae llai o glustogi naturiol.
Mae gwaith modelu diweddar ar gyfer afon Dyfi yn pwysleisio’r rhyngweithio rhwng mesurau wedi’u llunio’n benodol a systemau naturiol, a’r angen i gynllunio gyda lle ar gyfer dŵr.
Rydyn ni hefyd nawr yn gwneud mwy o waith i warchod rhywogaethau allweddol ar hyd yr aber, gan gydnabod y gwarchodfeydd natur pwysig gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (PLAS SAC), Biosffer Dyfi a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i ni benderfynu sut rydyn ni’n rheoli tir ar gyfer natur, gan wybod, gyda , y bydd rhai rhywogaethau sy’n byw yn yr aber ar eu hennill a rhai ar eu colled.
