English

Chapter 10 (CY)(Preview)

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu dros y 18 mis diwethaf, gan ddefnyddio arbenigedd a phrofiad bywyd pobl leol, yn ysbrydoli trigolion o amgylch aber afon Dyfi i weithredu yn wyneb y newidiadau a’r heriau sydd o’u blaenau.

© Gan Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifanc Dyfi
Slefren Wythgoes (Rhizostoma pulmo)

Mae bywyd ar yr arfordir wedi golygu byw gyda newid cyson erioed. Mae hanes ardal Dyfi, o afonydd dŵr tawdd i gorsydd, twyni a sianeli sy’n symud heddiw, yn dangos nad yw arfordiroedd byth yn sefydlog.

Mae rhai newidiadau’n datblygu’n araf, fel y gwelir mewn cofnodion mawn a ; mae eraill yn cyrraedd yn gyflym ac yn ail-siapio bywyd bob dydd. Mae dealltwriaeth wyddonol yn ein helpu i gydnabod pa rannau o’r arfordir sy’n naturiol ddeinamig, sy’n agored i newid, ac sy’n cynnig gwarchodaeth naturiol – cyfuniad o wybodaeth sy’n cryfhau ein gallu i addasu.

Cwrel Rhosliw (Pentapora foliacea)

Drwy rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am dir, cynefinoedd, hanes a chymunedau Dyfi, rydyn ni’n gobeithio y bydd y llawlyfr hwn yn adnodd ymarferol: adnodd sy’n eich galluogi i ofyn cwestiynau gwell, paratoi’n fwy effeithiol a phwyso am y cymorth sydd ei angen arnom i addasu ein systemau ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Mae rhannu gwybodaeth yn rhan o wydnwch.

Mae paratoi ar gyfer y dyfodol yn golygu cyfuno camau ymarferol, tymor byr â chynllunio tymor hwy sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol. Nid yw gwarchod treftadaeth a chynefinoedd yn ddewisol – mae’n rhan o sut mae yn cael ei feithrin. Rydyn ni’n bobl ddifysegra a gwydn, sydd wedi addasu ar hyd y canrifoedd, ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny.

Ond rydyn ni’n wynebu heriau sy’n fwy cymhleth nag erioed. Mae arfordiroedd eraill yng Nghymru a thu hwnt yn wynebu pwysau tebyg, yn enwedig mewn aberedd deinamig neu ddalgylchoedd byr, serth. Gall y llawlyfr hwn fod yn fan cychwyn iddyn nhw hefyd – cyfeirnod a rennir sy’n cynorthwyo sgyrsiau ehangach.

Dyma alwad i weithredu: i gael y wybodaeth ddiweddaraf, i drefnu ac i godi llais dros yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau. Ac nid y llawlyfr hwn yw diwedd y drafodaeth. Mae’n un cam mewn sgwrs barhaus, oherwydd rydyn ni’n byw ar arfordir sy’n newid drwy’r amser. Bydd angen i’n dealltwriaeth, ein gwaith cynllunio a’n hymateb cymunedol addasu gyda’r newid hwnnw.

© Josh Cooper Photography

Tu hwnt i’r prosiect: Sut rydyn ni wedi newid

Fe wnaethom ofyn i ambell aelod o’n grŵp cyd-gynhyrchu a oedd unrhyw beth maen nhw’n ei feddwl neu’n ei wneud yn wahanol o ganlyniad i’w hymwneud â Newid Llanw. Dyma’r hyn a ddywedon nhw:

Mae’r prosiect wedi fy helpu i ddeall llawer o faterion newydd nad oeddwn yn ymwybodol ohonyn nhw o ran addasu arfordirol. Mae wedi bod yn wych gweld beth mae cymunedau eraill yn yr ardal eisoes yn ei wneud i fod yn barod a helpu eu hunain pan fydd rhywbeth yn digwydd. Mae hynny wedi fy ysbrydoli i weld beth y gellir ei wneud yn fy nghymuned i fy hun.

Catrin O’Neill

Ers i mi ymwneud â Newid Llanw, wrth yrru yn Nyffryn Dyfi ac ar hyd ffyrdd yr arfordir, rwy’n cael fy hun yn ystyried uchder y tir uwchben lefel y môr/afon. Ac yna meddwl am yr effaith y bydd cynnydd cymharol fach yn lefelau’r llanw yn ei chael ar yr ardal gyfagos: tir fferm, ar drafnidiaeth (ffyrdd a’r rheilffordd), tai a bywydau pobl.

Ian Hewins

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: