English

Chapter 1 (CY)(Preview)

Mae arfordir Dyfi yn newid drwy’r amser. Mae wedi newid ac addasu dros filoedd o flynyddoedd, ac mae pobl a chymunedau wedi addasu hefyd.

Er mwyn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rydyn ni’n credu bod yn rhaid i ni barhau i addasu – ac mae gennym well siawns o lwyddo os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny.

© Hawlfraint y Goron (2026) Cymru Wales

Mae arfordir Dyfi yn newid drwy’r amser. Mae wedi newid ac addasu dros filoedd o flynyddoedd, ac mae pobl a chymunedau wedi addasu hefyd. Er mwyn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rydyn ni’n credu bod yn rhaid i ni barhau i addasu – ac mae gennym well siawns o lwyddo os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny.

© Gan Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifanc Dyfi

Ymdrech ar y cyd i feithrin

Rhwng 2020 a 2022, cyfarfu Tir Canol – partneriaeth o bobl a sefydliadau sy’n gweithio i greu canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol – â thrigolion a sefydliadau lleol ledled Dyfi gydag awydd dwfn ar y cyd i ymgysylltu’n gadarnhaol i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.

Yr uchelgais yw meddwl yn fyd-eang ond cael effaith yn lleol, cofleidio syniadau a phrofiadau pobl eraill, ac adeiladu ar yr asedau ymarferol sydd ar flaenau ein bysedd.

Galluogi ein hunain a’n cymuned

Gyda chefnogaeth Tir Canol, ffurfiwyd ein grŵp cyd-gynhyrchu craidd. Rydyn ni’n cynnwys trigolion o bob rhan o aber afon Dyfi sydd â safbwyntiau a phrofiadau bywyd amrywiol, o ffermwyr ac ymchwilwyr i farchnatwyr ac artistiaid. Credwn ei bod yn bwysig rhoi pobl wrth galon ein syniadau a’n cynlluniau gweithredu.

Rydyn ni ar daith i addysgu ein hunain ac eraill yn ein cymuned am ddyfodol posibl ein harfordir poblogaidd yn wyneb lefelau’r môr yn codi a newid yn yr hinsawdd. Mae’r llawlyfr hwn – y cyntaf o’i fath i gael ei greu gan ddefnyddio dull cyd-gynhyrchu – yn amlinellu cyd-destun a chwmpas ein gwaith, gan archwilio hanes a daearyddiaeth arfordir Dyfi, ei gynefinoedd a’i rywogaethau, a pham ei fod mor unigryw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bolisïau, cynlluniau a modelu’r arfordir, ac yn rhoi llais i rai o’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.

Mae Newid Llanw yn golygu cydweithredu yn ein cymunedau, gan roi rheolaeth a pherchnogaeth i bobl leol dros eu blaenoriaethau eu hunain. Mae'n ymwneud â rhannu arferion a gwybodaeth sydd wedi’u nodi ar y cyd, gyda balchder, er mwyn gwella ein hardal ar gyfer byd natur, ar ein cyfer ein hunain, ein hymwelwyr a'n cwsmeriaid, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Helpwch i rannu hanes arfordir sydd wastad yn newid. Cefnogwch Changing Tides a byddwch yn rhan o lunio dyfodol y Ddyfi.

Lledaenwch y gair: